Arloesedd clinigol
Mae arloesedd clinigol yn cael ei lywio gan chwilfrydedd, creadigrwydd a brwdfrydedd ar gyfer diwallu anghenion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a diwydiant.
Credwn fod gwir arloesedd clinigol yn ymwneud â chreu rhywbeth unigryw sy'n newid wyneb gofal iechyd ac y gellir ei gyflwyno'n ddi-dor.
Y Ganolfan Arloesedd Clinigol
Mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol, sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Meddygaeth, yn chwarae rhan ganolog wrth hwyluso partneriaethau a phrosiectau arloesol sy'n seiliedig ar iechyd a gofal.
Organogram partneriaethau’r Ganolfan Arloesedd Clinigol
Crynodeb o berthynas y Ganolfan Arloesedd Clinigol â phartneriaid eraill.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Partneriaid y Ganolfan Arloesedd Clinigol
Cyflymu
Mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol yn gartref i'r Cyflymydd Arloesedd Clinigol, partner yn y rhaglen Cyflymu.
Rhaglen cymorth chwyldroadol yw Accelerate a sefydlwyd i hwyluso a chyflymu'r broses o drosi syniadau; o nodi 'gwir' anghenion iechyd, hyd at gyflenwi arloesedd ar sail tystiolaeth.
Gall ein tîm o arbenigwyr ymroddedig ar arloesedd yn y Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) helpu busnesau i ddatblygu prosiectau newydd a chynhyrchion a gwasanaethau yn y dyfodol gan alluogi cyd-gynhyrchu gyda mewnbwn uniongyrchol gan arbenigwyr gofal iechyd ac ymchwil.
Rhagor o wybodaeth am y rhaglen Cyflymu.
Y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol
Rydym yn hynod falch o'n partneriaethau agos gyda'r GIG a'r diwydiant gofal iechyd. O ganlyniad i'r partneriaethau hyn, mae Caerdydd wedi cael ei chydnabod fel canolfan Ragoriaeth ar gyfer Meddygaeth Fanwl.
Mae'r Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cydnabod pwysigrwydd arloesedd clinigol wrth sicrhau budd i gleifion, a sicrhau budd iechyd, economaidd a chymdeithasol. Mae'r nodau cyffredin hyn wedi cael eu dal trwy ffurfio'r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol, sy'n helpu i hwyluso perthynas waith agos rhwng y bwrdd iechyd a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at sefydlu'r Tîm Amlddisgyblaethol Arloesedd Clinigol (MDT). Mae'r grŵp unigryw hwn o arbenigwyr yn dwyn ynghyd arbenigedd clinigwyr, academyddion ag arbenigedd partneriaid diwydiant a llywodraeth leol i gynnig cyngor a chefnogaeth.
Mae'r Ganolfan Arloesedd Clinigol yn chwarae rhan annatod yn y tîm hwn.
Rhagor o wybodaeth am y Tîm Amlddisgyblaethol Arloesedd Clinigol.
Cwrdd â’r tîm
Mae ein hymchwil yn creu buddion ar draws maes iechyd, y gymdeithas, a'r economi.