Canolfannau, grwpiau ac unedau
Mae ein staff a’n myfyrwyr yn aelodau blaenllaw o'r gymuned ymchwil ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Rydym yn ymwneud â nifer o ganolfannau, grwpiau ac unedau ac mae ein hymchwil yn cyd-fynd â themâu a gweithgarwch ymchwil Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
Ein canolfannau, ein grwpiau a’n hunedau
Yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, rydym yn gweithio gyda chleifion canser a phartneriaid eraill i ddatblygu a chyflawni rhagoriaeth ymchwil ledled Cymru. Rydym wedi ein lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael ein hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.