Ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth
Ers ymhell dros ganrif rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd drwy addysg, ymchwil ac ymgysylltu â’r byd ehangach.
Cefnogir ein hymrwymiad i ragoriaeth ymchwil drwy ganolfannau, grwpiau ac unedau ymchwil yn cydweithio yn ein cyfleusterau rhagorol.
Gyda'n themâu ymchwil yn ein llywio, mae ein hymchwilwyr yn ymwneud â’r wyddoniaeth ddiweddaraf ac ymchwil byd-eang ym maes meddygaeth sy’n cael effaith real ar fywydau pobl.
Mae ein huchafbwyntiau ymchwil yn cynnwys:
- Canser a Geneteg
- Haint ac Imiwnedd
- Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol
- Meddygaeth Poblogaeth
Mae llawer o'n hymchwil yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â chyd academyddion, y GIG a'r diwydiant meddygol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Cefnogaeth Ymchwil:
Cefnogaeth ymchwil
Cyfraniad y cyhoedd mewn ymchwil
Mae llawer o'n hymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda grwpiau cleifion ac aelodau unigol o'r cyhoedd er mwyn deall eu hanghenion yn well. Mae hyn felly, yn arwain at ymchwil mwy perthnasol a dibynadwy a fydd yn y pendraw o fudd i'r claf.
Rydym yn gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad i rai sydd yn dymuno cynnwys y cyhoedd yn eu hymchwil.
Fideo yn amlygu'r manteision o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
Sefydliadau Ymchwil
Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio'n agos â dau Sefydliad Ymchwil yn y Brifysgol a sefydlwyd gyda meddygaeth yn graidd i'w hymchwil safonol sy'n gosod yr agenda: