Sgwrs gyda chynfyfyriwr: Dr Alice Hoole (MBBCh 2014, MRCP, PG Cert 2019)
Mae Alice yn hyfforddwraig arbenigol mewn Meddyginiaeth Fewnol Acíwt (AIM) ac mae wedi dechrau ar ei hail flwyddyn o hyfforddiant yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae Alice yn dweud: “Mae’n lle prysur ac ysgogol i weithio ynddo, ac yn amhrisiadwy i hyfforddeion meddygol fel fi gan ei fod yn ein rhoi mewn sefyllfa well i siarad â’n cleifion am yr hyn y mae’n ei olygu i gael eu “derbyn i ICU.”
Yn syth ar ôl graddio, bu Alice yn gweithio fel feddyg Sylfaen yng Nghasnewydd. Mae Alice yn myfyrio ar eleni ac yn cofio: “Cwrddais â rhai mentoriaid a ffrindiau anhepgor, a chefais fy hun yn ymgartrefu yn fy rôl fel meddyg. Roedd fy mhrofiad cyntaf o fywyd ar y wardiau yn llawn straen ond yn rhoi boddhad hefyd, a sylweddolais fod gwaith sifft hir a gwneud penderfyniadau dan bwysau yn llawer iawn o hwyl!”
Cwblhaodd Alice ei hyfforddiant Sylfaen a Hyfforddiant Meddygol Craidd yn ne ddwyrain Cymru, gan deithio i’r Fenni a Merthyr Tudful ar gyfer cylchdroadau 6 mis. Mae Alice yn dweud: “Wnes i ddim cymryd seibiant yn wahanol i’r rhan fwyaf o fy nghydweithwyr felly treuliais fy mlwyddyn gyntaf yn dilyn hyfforddiant cofrestrydd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor a hon, er gwaethaf fy mhryder am adael fy nghartref, fy nheulu a’m ffrindiau, yn ôl pob tebyg oedd blwyddyn orau fy hyfforddiant hyd yn hyn.
Mae gogledd Cymru yn rhan brydferth o’r byd, gyda golygfeydd godidog dirifedi, ac roedd y tîm derbyniadau meddygol y bûm yn gweithio ynddo yn wych. Diolch yn fawr! Ym Mangor y penderfynais gwblhau’r dystysgrif ôl-raddedig mewn addysg feddygol, yr wyf wedi parhau eleni i’r ddiploma.
Mae meddygaeth glinigol yn lle arteithiol i fyfyrwyr meddygol a hyfforddeion fel ei gilydd ac rwy’n credu bod yr elfen arteithiol hon yn dychryn llawer o feddygon talentog a galluog i ffwrdd o feddygaeth yn gyfan gwbl. Dw i am ddefnyddio fy sgiliau i wneud dysgu’r grefft o feddygaeth yn fwy o hwyl, difyr a gwerthfawr i fyfyrwyr a hyfforddeion mewn ymgais i ddod â swyn a chyffro yn ôl i’r gwaith rydym ni’n hyfforddi mor galed i’w wneud.”
Ar ôl gofyn pam y dewisodd Gaerdydd, eglura Alice “Rwy’n hanner Cymraes – mae Caerdydd wedi bod yn rhan o fy mywyd ers pan oeddwn i’n ifanc, gan ymweld â’r fintai o Gymry ar ochr fy mam o’r teulu bob gwyliau ysgol, a gwisgo baner Cymru gyda balchder fel clogyn wrth wylio’r Dreigiau yn cael ennill (!!) yn yr hyn a oedd bryd hynny yn Stadiwm y Mileniwm. Aeth fy mam-gu i Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru yn y 1940au ac, er ein bod yn jocan am ba mor wirion yw’r ddwy ohonom, mae’n rhaid bod rhywbeth yn fy ngenom!
Mae Caerdydd wedi teimlo fel cartref oddi cartref ers y blynyddoedd cynnar hynny ac felly roedd y penderfyniad i fynd i ddiwrnod agored Prifysgol Caerdydd yn un rhwydd. Eisteddais wrth ymyl cyd-fyfyriwr ar daith bws o amgylch y ddinas a dod ymlaen â nhw ar unwaith. Gwelais fod pobl yn debyg imi yng Nghaerdydd hefyd, felly cefais fy argyhoeddi.”
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 33 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 33
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.