Dan y Chwyddwydr: Tîm Ymgysylltu Myfyrwyr
Dan arweiniad Vicki Roylance, mae’r tîm bach hwn yn ymroi i sicrhau bod y Brifysgol a’n cymuned yn dathlu llwyddiant ein myfyrwyr meddygol.
Mae ein myfyrwyr yn llysgenhadon anhygoel i’r cwrs a’r yrfa. Nid yn unig maent yn ymgymryd â’u hastudiaethau meddygol gydag 100% o ran ymrwymiad, ond mae llawer ohonynt yn ymwneud â nifer o brosiectau eraill tu mewn a thu allan i’r Ysgol Meddygaeth. Mae’r tîm yn gwybod am rai o’r myfyrwyr, ac eto ddim am lawer ohonynt. Mae’r tîm yn awyddus i glywed am weithgareddau allgyrsiol y mae myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.
Bob blwyddyn o gwmpas mis Chwefror, mae’r Ysgol Meddygaeth yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant myfyrwyr drwy ein seremoni wobrwyo arbennig ‘Surgam’ (o’r Lladin ‘Fe godaf’). Mae’r digwyddiad yn achlysur mawreddog gyda dawnsio, cerddoriaeth a straeon sy’n ysbrydoli. Mae teuluoedd myfyrwyr yn dod hefyd i rannu yn eu llwyddiant ac i eistedd gyda balchder (ac yn aml iawn, deigryn yn eu llygaid!) i weld beth mae’r myfyrwyr anhygoel hyn wedi’i gyflawni. Bydd y ffurfioldebau yn dechrau gyda the prynhawn blasus ac yna’n symud at y gwobrau a’r dathliadau.
Mae ein cyfrifon cymdeithasol yn llwyfan gwych i rannu yn llwyddiant ein myfyrwyr. Bydd dilyn ein negeseuon Facebook (Israddedigion: @CardiffC21; Ôl-raddedigion (a Addysgir) @cardiffpostgradmedic) yn sicr o wneud staff/cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a rhanddeiliaid yn falch o fod yn gysylltiedig â grŵp mor lwyddiannus o bobl. O fyfyrwyr ar leoliadau dewisol i raddio, mae Facebook yn cynnwys y cyfan.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 32 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 32
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.