LIPID MAPS Gateway - Adnodd agored i bawb yn y byd ynghylch popeth sy’n ymwneud â brasterau
Mae brasterau’n hanfodol i fyw (30% o’r corff a 60% o’r ymennydd). Maen nhw’n ffynonellau egni gan gadw’r celloedd ynghyd ac yn eu galluogi i gyfathrebu pan fo pobl yn iach ac yn afiach fel ei gilydd.
Daw rhai trwy ein bwyd, a chynhyrchir eraill yn ein celloedd - mae’n cyrff yn cynnwys miloedd o wahanol fathau o’r moleciwlau unigryw hyn. Mae problemau brasterau wrth wraidd y clefydau mwyaf difrifol megis clefyd y galon a’r ysgyfaint, clefyd metabolaidd, thrombosis a chanser - mae asbrin o gymorth trwy rwystro moleciwl braster rhag cael ei wneud yn y gwaed.
Yr Athro Ed Dennis, yr Athro Shankar Subramianiam a’u cydweithwyr luniodd LIPID MAPS Gateway ym Mhrifysgol California San Diego yn 2003. Yr adeg honno, dechreuodd cyfungorff LIPID MAPS arwain yr hyrwyddo byd-eang ynghylch maes newydd, lipidomeg (bywydeg brasterau a’u dadansoddi) ymhlith ymchwilwyr.
Gyda chymorth grant adnoddau biofeddygol y Wellcome Trust (a arweinir gan yr Athro Valerie O’Donnell, Ysgol Meddygaeth Caerdydd), mae LIPID MAPS newydd symud ei gronfa ddata a’i swyddogaethau gweinyddol i’r Deyrnas Gyfunol i’w rheoli gan gyfungorff byd-eang sy’n cynnwys arbenigwr o Brifysgol California San Diego, Sefydliad Babraham, Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Caerdydd.
Mae ymchwilwyr ledled y byd yn dibynnu ar y LIPID MAPS Lipidomics Gateway. Mae yn y gronfa ddata agored unigryw hon dros 43,000 o strwythurau dosbarthedig bellach (mae tua hanner yn cael eu curadu) ac, felly, dyma gronfa ddata gyhoeddus fwyaf y byd ym maes brasterau. Mae’r wefan yn cynnig meddalwedd, safonau, protocolau, deunyddiau tiwtorial a chyhoeddiadau ynglyn â brasterau hefyd, ac mae’n ffynhonnell wybodaeth hanfodol i ymchwilwyr ledled y byd yn y maes hwn. Gwelir y tudalennau dros ddwy filiwn o weithiau bob blwyddyn o bob cwr o’r byd - y wefan fwyaf poblogaidd ymhlith ymchwilwyr i frasterau ac eithrio Google a PubMed.
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 30 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 30
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ddim yn derbyn ReMEDy? Diweddarwch eich manylion nawr i sicrhau nad ydych yn colli mas.