Llysgenhadon MEDIC: addysgu ac ysbrydoli disgyblion Cymru
Ddechrau blwyddyn academaidd 2017/18, sefydlodd Ysgol Meddygaeth Caerdydd gynllun Llysgenhadon MEDIC.
Y ddau brif bwrpas yw:
- Ehangu’r ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau Cymru gan roi cymorth a mentora ychwanegol i ddisgyblion ac athrawon, mireinio’r cwrícwlwm a chodi dyheadau o safbwynt ysgol feddygol.
- Gwella medrau mentora, addysgeg, cyfathrebu a chyflogadwyedd ymhlith staff a myfyrwyr.
Mae ein tîm ymgysylltu yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru fel y bydd sawl cyfle i Lysgenhadon MEDIC ymgysylltu â nhw.
Mae llysgenhadon wedi ymweld â rhai ysgolion uwchradd a chynradd yn barod gan gynnal amryw weithgareddau megis gweithdai am y corff, ffeiriau a sgyrsiau am yrfaoedd, gweithdai am ganser y ceilliau a sesiynau ‘adnabod eich corff’ i ferched a bechgyn fel ei gilydd.
Cofnodir gweithgareddau’r llysgenhadon fel y bydd tystiolaeth ar gyfer portffolio pob myfyriwr. Rhoddir cydnabyddiaeth trwy seremoni gwobrwyo myfyrwyr bob blwyddyn, hefyd.
Manteision y cynllun
Mae yna nifer o fanteision i staff, cynfyfyrwyr a myfyrwyr y Brifysgol sy'n cymryd rhan yn y cynllun, gan gynnwys:
- Meithrin medrau cyflogadwyed
- Mireinio medrau cyfathrebu
- Hybu’r Cwrícwlwm Gwladol
- Ysbrydoli gwyddonwyr, meddygon a phroffesiynolion gofal iechyd y dyfodol
- Hwyluso strategaethau denu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Meithrin cysylltiadau ag ysgolion, gan gynnig gweithgareddau dysgu diddorol ac ysgogol.
Adborth llysgenhadon
Dyma adborth rhai o Lysgenhadon MEDIC hyd yma:
“Doedd dim profiad o ddysgu disgyblion gyda fi cyn dechrau. Mae’r profiad hwn wedi gwella fy medrau addysgu a gwneud imi deimlo’n fwy hyderus i siarad o flae cynulleidfa. Ar ôl siarad, fe gynhaliais i gwis i weld faint roedd y disgyblion wedi’i ddysgu. Atebodd 99% o’r disgyblion y cwestiynau yn gywir ac mae hynny’n dangos eu bod wedi gwrando ar y ddarlith a deall ei chynnwys.”
“Rwy’n fwy hyderus wrth ddysgu plant bellach - yn arbennig am bynciau megis cancr y fron, lle mae angen bod yn dringar."
Sut i gymryd rhan
Rydym wedi ymroi i godi dyheadau plant ysgolion Cymru. I ddysgu rhagor am raglen Llysgenhadon MEDIC, anfonwch neges at Karen Edwards, Swyddog Ymgysylltu Ysgol Meddygaeth Caerdydd:
Tîm Ymgysylltu Meddygol
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 29 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
ReMEDy Rhifyn 29
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.