O dan sylw: Canolfan PRIME Cymru
![PRIME SUPER grŵp](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1270889/PRIME-SUPER-group2.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sefydlodd y ganolfan yn 2015 ac ymrwymodd yn ddiweddar i’w hariannu hyd 2020.
Nod y ganolfan yw gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru a’r tu hwnt trwy gynnal ymchwil o safon i bynciau sy’n bwysig i bolisïau gwladol ynghylch gofal sylfaenol, gofal brys a gofal heb ei drefnu.
Timau amlddisgyblaethol
Gorchwylion timau’r ganolfan yw hel tystiolaeth ar gyfer polisïau, llunio triniaethau newydd, gwella gwasanaethau a rhoi canfyddiadau ar waith yn yr amryw feysydd perthnasol megis meddygon teulu, nyrsio cymunedol, deintyddiaeth, fferylliaeth, therapi galwedigaethol, ffisiotherapi, gofal cymdeithasol, gofal brys, gofal cyn mynd i’r ysbyty a gofal heb ei drefnu.
Troi canfyddiadau’n bolisïau ac arferion
Mae’r ganolfan yn cydweithio â phobl berthnasol megis cleifion, eu teuluoedd a’u cynhalwyr, lleygwyr, darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol, Llywodraeth Cymru, llunwyr polisïau, y byd diwydiannol, y trydydd sector ac ysgolheigion i gynnal ymchwil a fydd yn llywio polisïau ac arferion ac yn effeithio er gwell ar ofal iechyd a chymdeithasol, effeithiolrwydd gwasanaethau a’r gallu i
greu cyfoeth.
Mae’r ganolfan wedi cryfhau ei ffordd strategol o hwyluso effeithiau a gofalu bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo a’i defnyddio’n effeithiol trwy benodi rheolwr sy’n gyfrifol am hybu a chyflawn amcanion Strategaeth Defnyddio ac Effaith Gwybodaeth 2018-20 a luniwyd ar ôl ymgynghori ag aelodau cylch PRIME SUPER a Llywodraeth Cymru.
Cynnwys y cyhoedd
Mae rôl lleygwyr a chleifion yn hanfodol i waith PRIME er mwyn gofalu ein bod yn ystyried materion sy’n bwysig i’r cyhoedd ac yn fwyaf tebygol o wella gofal cleifion yn y modd mwyaf effeithiol.
Yn 2017, sefydlodd y ganolfan gylch SUPER lle y gall cleifion a lleygwyr ein helpu i lunio, cynnal a lledaenu ymchwil. SUPER: Service Users for Primary and Emergency Care Research.
Gwahoddir ymchwilwyr y ganolfan i ddod i gyfarfodydd y cylch bob tri mis yn ogystal ag anfon gwybodaeth at ei aelodau i ofyn am eu cynghorion a’u cyfraniad mewn ymchwil, yn arbennig ei llunio a’i lledaenu.
At hynny, mae aelodau’r cylch wedi helpu i gynnal gweithgareddau ymchwil a mynd i gynadleddau a gweithdai i hybu rôl y cyhoedd mewn ymchwil.
Mae’r ganolfan wedi ymroi i gynnwys lleygwyr a chleifion yn ei gweithgareddau ymchwil. Dim ond un ffordd o wneud hynny yw SUPER. Mae ymchwilwyr yn defnyddio rhwydweithiau a chysylltiadau eraill i ddenu pobl brofiadol berthnasol ar gyfer gorchwylion y canolfan, hefyd.
Rhagor o wybodaeth am Canolfan PRIME Cymru
Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 29 o ReMEDy.
Darllenwch yr erthygl lawn
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=100&h=100&auto=format&fit=crop)
ReMEDy Rhifyn 29
Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.