Diwrnodau agored
Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn i roi cyfle i chi i gael gwybod rhagor am Brifysgol Caerdydd a sut beth yw bod yn fyfyriwr yma.
Cyfarfod staff a myfyrwyr
Er y gallwch bori trwy ein tudalennau gwe trwy gydol y flwyddyn, yn ystod y Diwrnod Agored ei hun, cewch gyfle i:
- gael sgwrs â'n staff gan gynnwys timau Preswylfeydd, Derbyn Myfyrwyr a Chefnogi Myfyrwyr
- cwrdd â staff academaidd, myfyrwyr presennol a graddedigion
- rhoi cynnig ar sgiliau clinigol
Rhagor o wybodaeth am ein diwrnodau agored rhithwir a chadw eich lle nawr.
Apwyntiadau ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol
Rydym yn sylweddoli nad yw’n bosib, weithiau, i ymwelwyr rhyngwladol fynychu Diwrnodau Agored ond y byddant, o bosib, yn ymweld â Chaerdydd ar adegau eraill.
Mae croeso i unigolion sy’n gallu rhoi digon o rybudd i ni o’u cynlluniau teithio gysylltu â ni, rhag ofn y gallwn gynnig apwyntiad byr. Gan ein bod ar safle ysbyty GIG, rydym yn gobeithio y byddwch yn deall nad yw hyn bob amser yn bosibl.
Gallwch gysylltu â ni ar:
Diwrnodau agored yr Ysgol Feddygaeth
Gallwch ddysgu rhagor am yr Ysgol trwy ein taith rithwir ryngweithiol.
Edrychwch beth sydd gan ein myfyrwyr meddygaeth i’w ddweud am astudio yma.