Addysg Feddygol
Mae rhaglenni Addysg Feddygol y Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth dysgu ac addysgu ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol.
Anelir y rhaglenni at bob gweithiwr meddygol, deintyddol ac iechyd proffesiynol arall sydd eisiau proffesiynoli rôl y clinigydd sy’n athro.
Mae’n cydnabod cyd-destunau amrywiol, cymhleth a heriol y rheini sydd newydd gychwyn rolau a chyfrifoldebau addysgwr a’r rheini sydd â blynyddoedd lawer o brofiad.
Nod y cwrs yn gyffredinol yw datblygu cymuned o addysgwyr sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo gwelliannau o ran 'beth' a 'sut' rydyn ni’n addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.
Gall myfyrwyr ddewis astudio ein cyrsiau Addysg Feddygol ar sail dysgu wyneb yn wyneb neu ddysgu o bell.
Wyneb yn wyneb
Cwrs sy'n seiliedig ar bresenoldeb yng Nghaerdydd yw'r rhaglen hon.
Cwrs | Dull | Hyd |
---|---|---|
Addysg Feddygol (MSc) | Rhan-amser | 3 blynedd |
Addysg Feddygol (MSc) | Amser llawn | Blwyddyn |
Dysgu o bell
Cwrs | Dull | Hyd |
---|---|---|
Addysg Feddygol (PgCert) | Dysgu o bell yn rhan-amser | Blwyddyn |
Addysg Feddygol (MSc) | Dysgu o bell yn rhan-amser | 3 blynedd |