Athena SWAN
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod yr ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM).
Ym mis Mai 2015, ehangwyd y siarter i gydnabod gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith, ac mewn swyddi proffesiynol a chymorth, yn ogystal ag ar gyfer staff a myfyrwyr traws. Erbyn hyn, mae’r Siarter yn cydnabod y gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb o ran rhywedd yn ehangach, ac nid y rhwystrau at ddilyniant sy’n effeithio ar fenywod yn unig.
Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ac yn cymryd cyfrifoldeb dros ymgorffori egwyddorion Siarter Athena SWAN ac roedd yr Ysgol yn falch iawn o gael y wobr efydd ym mis Ebrill 2018. Mae'r wobr yn adlewyrchu penllanw misoedd lawer o waith ac mae wedi rhoi’r cyfle i ddatblygu diwylliant urddas, cwrteisi a pharch.
Ein hamcanion
Cafodd pwyllgorau cydraddoldeb ac amrywiaeth lleol eu creu’n rhan o is-adrannau ymchwil yr Ysgol, y Ganolfan Addysg Feddygol yn ogystal â'r Ganolfan Treialon Ymchwil. Mae'r rhain yn bwydo i mewn i brif bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol sy’n sicrhau bod y staff yn cymryd mwy o ran a bod dull cydlynol o ran mynd i'r afael â’r pedwar nod allweddol:
- Hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd wrth ddatblygu gyrfaoedd
- Cefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ar sail ymarferol
- Dileu pob math o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
- Datblygu diwylliant gwaith sy’n gynaliadwy, yn gadarnhaol ac yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch
Ein llwyddiannau
Bellach, mae gennym fwy na 100 o staff ar draws pob llwybr gyrfaol sy’n cymryd rhan amlwg yn Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yr Ysgol a’r pwyllgorau lleol. Mae’r pwyllgorau lleol yn cyfarfod yn fisol, a chymerodd y rhain ran amlwg wrth lywio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu Athena SWAN yr Ysgol ac agenda EDI yn gyffredinol.
Mae nifer o uchafbwyntiau wedi bod ar hyd y daith tuag at gael y wobr efydd:
- Arolwg EDI bach (er mwyn i bob aelod o staff gael dweud ei ddweud).
- Hwyluso grwpiau ffocws (i ystyried y sylwadau yn yr arolwg a llywio'r cynllun gweithredu).
- Creu fideo 'Active Bystander' (“Dyma'n Hysgol ni, ein cyfrifoldeb ni, peidiwch â sefyll o'r neilltu”).
- Creu graffigyn hyrwyddo 'dweud eich dweud' (mae'r holl staff wedi ‘arwyddo’ o ran dangos cefnogaeth i ddiwylliant urddas a pharch).
- Cyfres o ddarlithoedd Athena SWAN (hanesion personol sy'n dathlu ac yn cydnabod yr hyn y mae’r holl staff wedi’i gyflawni).
- Cylchoedd mentora.
- Diwrnod gwneud rhywbeth gwahanol.
- Rhwydwaith iMPReSS sy'n trefnu digwyddiadau datblygu gyrfaol a lles ar gyfer staff yn y gwasanaethau proffesiynol gan gynnwys hyrwyddo rhaglen Prentisiaeth y Brifysgol sy'n cynnig cymwysterau gweinyddu busnes a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer ein staff gweinyddol/MPSS.
- Fforwm Ymchwilwyr ar ddechrau eu Gyrfa (ECR) i hyrwyddo a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gyfer ein hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Fideo 'Active Bystander'
Fideo 'Active Bystander' a gafodd ei greu gan yr Ysgol Meddygaeth.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi wybod rhagor am Athena SWAN a sut y gallwch chi hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd ledled yr ysgol, cysylltwch â’r tîm craidd ar bob cyfrif.
School of Medicine Equality, Diversity and Inclusion (EDI)
Rydym yn aelod o Athena Swan, sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth.