Cynllun Mentora Ehangu Mynediad i Feddygaeth (WAMMS)
Menter dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw WAMMS, ac mae’n hyrwyddo rhoi cyfle cyfartal i ddisgyblion mewn ysgolion gwladol ledled Cymru, drwy eu cefnogi nhw a’u hathrawon i ddod o hyd i’w ffordd drwy’r broses gymhleth o ymgeisio i astudio meddygaeth yn y brifysgol.
Drwy ymweld ag ysgolion, cynnal digwyddiadau, a chynnig adnoddau wedi’u teilwra, rydyn ni’n ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn meddygaeth, gan godi dyheadau ac annog cynrychiolaeth ym maes meddygaeth mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Hyd yn hyn, cafwyd dros 3,600 o gysylltiadau rhwng disgyblion ysgol a myfyrwyr meddygol ledled Cymru. Mae WAMMS hefyd wedi cynnal cynadleddau yng ngogledd a de Cymru, gan ddod â disgyblion o ystod eang o ysgolion lleol ynghyd. Maen nhw wedi cynnal sawl cyfres o gyfweliadau byr ffug mewn sesiynau i helpu i baratoi disgyblion i wneud cais i astudio meddygaeth.
Sut y gallwch chi helpu
Mae’n bosibl cyfrannu at Gynllun Mentora Ehangu Mynediad i Feddygaeth (WAMMS) i gynyddu’r gwaith allanol y maen nhw’n gallu ei wneud yn ysgolion gwladol Cymru. Gall eich cefnogaeth sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru, o ba bynnag gefndir y maen nhw, yn cael y cyfle i ddilyn eu breuddwydion a chael dilyn gyrfa mewn meddygaeth, a bod darpar feddygon yn cynrychioli pob un o’n cymunedau.
I gyfrannu, ewch i’n tudalen Rhoddion, dewiswch ‘Arall’ o’r gwymplen a theipiwch ‘WAMMS’.
Darganfyddwch fwy
Gwyliwch i ddysgu sut y cafodd rhai o'n myfyrwyr meddygol presennol gefnogaeth gan WAMMS i wneud cais i astudio yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, a sut maen nhw bellach yn ymwneud â’r fenter.
Gwyliwch ein fideo i weld tystebau gan rai o’r disgyblion a gafodd gymorth yn ddiweddar gan y Cynllun Mentora Ehangu Mynediad i Feddygaeth (WAMMS) i wneud ceisiadau i ysgolion meddygaeth.
Rhagor o wybodaeth am wahodd WAMMS i’ch ysgol