Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd

Science in Health

Mae’r rhaglen Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer a’i nod yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ym maes meddygaeth, gofal iechyd a gwyddoniaeth.

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • Darlithoedd Cyhoeddus – lle mae croeso i bawb
  • Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw! – ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12
  • Cynllun profiad gwaith – ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12
  • Her Gwyddorau Bywyd – ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 10

Darlithoedd cyhoeddus

Mae’r gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn fisol rhwng mis Hydref a mis Ebrill ar ffurf gweminarau Zoom yn rhad ac am ddim. Mae’r darlithoedd yn denu cynulleidfa amrywiol, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, myfyrwyr ysgol uwchradd a gweithwyr proffesiynol.  Nod y gyfres yw tynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder ym maes gofal iechyd ac i gyflwyno ymchwil newydd ym maes gwyddoniaeth ac iechyd i'r cyhoedd.

Ceir manylion am y gyfres o ddarlithoedd ddiweddaraf isod. Defnyddiwch y dolenni i gofrestru a bydd manylion ynghylch sut i ymuno â gweminar Zoom yn cael eu hanfon atoch.  Gweler darlithoedd blaenorol hefyd trwy'r dolenni isod.

Cyfres o Darlithoedd Cyhoeddus 2024/2025

Dyddiad ac amserTeitlSiaradwr
Dydd Iau 17 Hydref 2024

19:00

Beth allwn ni ei ddysgu o glefydau prin?

Gwyliwch fideo

Dr Elaine Dunlop, Prifysgol Caerdydd (ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru)
Dydd Iau 14 Tachwedd 2024

19:00

Brechlynnau yn erbyn y pâs: canrif o wyddoniaeth dda a drwg

Cofrestr

Dr David Miles, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain
Dydd Iau Ionawr 16 2025

19:00

Meddygaeth ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio: lle mae celf a gwyddoniaeth yn cwrdd â’i gilydd

Cofrestr

Dr Lucy Pollock, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gwlad yr Haf

Dydd Iau 6 Chwefror 2025

19:00

Mathau o Amnesia: Rhai go iawn ac wedi'i efelychu

Cofrestr

Yr Athro John Aggleton, Prifysgol Caerdydd

Dydd Iau 20 Mawrth 2025

19:00

Cyd-ddatblygu cymorth iechyd meddwl digidol gyda phobl ifanc

Cofrestr

Dr Rhys Bevan-Jones, Prifysgol Caerdydd
Dydd Iau 10 Ebrill 2025

19:00

Defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn meddygaeth, a’r goblygiadau o wneud hynny

Cofrestr

Dr Athanasios Hassoulas a'r Athro Marcus Coffey, Prifysgol Caerdydd

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - yn Fyw!

Mae’r digwyddiad hwn wedi croesawu myfyrwyr i’r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ers dros 30 mlynedd.  Caiff ei gynnal yn ysbyty addysgu mwyaf Cymru yn ystod yr Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Cenedlaethol.  Mae wedi’i anelu at fyfyrwyr ym Mlwyddyn 12 sy’n astudio Gwyddoniaeth a Mathemateg Safon Uwch ac mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddarganfod mwy am y darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, yn ogystal â chael gwybod am yr ystod eang o gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael ym meysydd gwyddoniaeth a gofal iechyd.

Dyddiadau 2025

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw 2025 yn cael ei gynnal ar 12 Mawrth 2025. Bydd cofrestru yn agor ym mis Hydref 2024.

Cofrestrwch nawr

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw: Pen-blwydd yn 25 oed

Fideo o Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd - YN FYW 2019.

Profiad gwaith yn y labordy

Rhaglen o gynlluniau yw hon i ysbrydoli myfyrwyr blwyddyn 12 sydd â diddordeb mewn gwneud gradd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth neu feddygaeth. Mae’r rhaglen wedi’i chydlynu ac yn parhau i esblygu.

Work Experience
Some of our work experience students getting hands on in the lab environment.

Bydd y myfyrwyr yn cael cyflwyniad cyffredinol i'r wythnos, gan gynnwys amlinelliad o natur y gwaith a wneir yn y labordai ymchwil.

Yn ystod gweddill yr wythnos, bydd myfyrwyr yn cael ystod o brofiadau yn gweithio mewn timau gyda nifer o ymchwilwyr gwahanol a'u grwpiau ymchwil.

Rhoddir cyfleoedd i'r myfyrwyr brofi technolegau arloesol, fel bioleg foleciwlaidd, cytometreg llif, dilyniannau DNA, micro-bigiad wy, firoleg, sbectromedreg màs, grisialograffaeth pelydr-x, ffarmacoleg ac imiwnoleg celloedd, gyda grwpiau ymchwil ar draws yr Ysgol.

Yn hollbwysig, caiff myfyrwyr y cyfle i gwrdd â myfyrwyr PhD a chymrodorion ôl-ddoethurol, a bydd llawer ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd. Ar y prynhawn olaf, bydd y myfyrwyr yn dod at ei gilydd i ddisgrifio'r hyn maent wedi'i ddysgu yn ystod yr wythnos, a rhoddir gwybodaeth hefyd am broses ymgeisio UCAS.

Ffurflen gais

Cynhelir Profiad Gwaith 2025 rhwng 30 Mehefin a 4 Gorffennaf. Lawrlwythwch y ffurflen gais isod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Ebrill 2025.

Gwyddoniaeth Mewn Iechyd - ffurflen gais profiad gwaith

Darllenwch y ffurflen hon yn ofalus a llenwch pob adran.

Life Sciences Challenge (Her y Gwyddorau Bywyd)

Cystadleuaeth rhwng ysgolion ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 sy’n cynnwys cwis. Fe’i dylunnir a’i chyflwyno gan fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd (Ymchwilwyr Ôl-Ddoethurol a Chymrodorion Iau).

Life Sciences Challenge
Pupils taking part in the Life Sciences Challenge quiz.

Mae'r rhain yn unigolion sy’n frwdfrydig ynghylch gwyddoniaeth, ac sydd wedi dewis ymrwymo eu bywydau i ymchwil wyddonol. Maent am rannu'r brwdfrydedd hwn ynghylch ceisio deall y byd naturiol â disgyblion yng Nghymru.

Drwy roi cyfle i ddisgyblion gwrdd â gwyddonwyr ifanc sy'n gweithio'n lleol, rydym yn gobeithio eu hysbrydoli i ystyried y posibilrwydd o ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth.

Bydd rhai o'r cwestiynau'n dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ond efallai y bydd rhai eraill yn gofyn am wybodaeth a geir drwy ddarllen/ymchwilio ymhellach.

Yn bwysicach byth, bydd rhai cwestiynau'n profi gallu disgyblion i ddadansoddi data a chymhwyso rhesymeg a gwybodaeth i ddelio â chysyniadau anghyfarwydd. Bydd y cwestiynau'n ymwneud yn bennaf â Bioleg a Chemeg, ond gallant gynnwys agweddau ar Ffiseg a Daeareg pan fo hyn yn ymwneud â deall y byd naturiol.

Sut i gystadlu

I gystadlu fel tîm (neu sawl tîm) yn y rownd ar-lein rhagarweiniol, ebostiwch medicengagement@caerdydd.ac.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw diwedd Ionawr 2025.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gweithgareddau hyn cysylltwch â:

Ymgysylltu Meddygaeth