Gweithgareddau ymgysylltu
Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau ymgysylltu trwy gydol y flwyddyn. Ein nod yw cynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil i helpu ac i lywio allbynnau, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr meddygol proffesiynol.
Gweithio gydag ysgolion
Mae llawer iawn o waith ymgysylltu’n mynd rhagddo ar draws yr ysgol sy'n ceisio ysbrydoli plant ysgol ledled Cymru i ystyried gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth a meddygaeth. Mae rhywfaint o'r gweithgarwch hwn wedi'i gydlynu'n ganolog drwy ein rhaglen ac mae rhywfaint ohoni'n canolbwyntio ar ymchwil. Yn ogystal â hyn, mae staff yn ymateb i wahoddiadau achlysurol gan ysgolion a grwpiau lleol i gynnal gweithgareddau ymgysylltu sydd wedi eu teilwra.
Ers 2017, rydym wedi bod yn cynnal cynllun Llysgenhadon MEDIC ar gyfer ein myfyrwyr a'n cynfyfyrwyr meddygol sydd eisiau ymgysylltu â phlant ysgol. Bellach mae gennym garfan o dros 150 o Lysgenhadon, sy'n cynnwys myfyrwyr o bob blwyddyn, sy'n rhannu brwdfrydedd dros feddygaeth ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddygon a gweithwyr gofal iechyd.
Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn ymgysylltu â ni, llenwch ein i Ysgolion neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion wrth droed y dudalen.
Ysgolion yr ydym yn gweithio gyda nhw
Cynnwys y cyhoedd a chleifion
Er mwyn sicrhau bod ein rhaglenni ymchwil yn gyfredol, yn berthnasol, ac yn diwallu anghenion ein cymdeithas newidiol, rydym yn gweithio i ymgorffori diwylliant o gynnwys y cyhoedd a chleifion fel y gallant lywio a dylanwadu ar ymchwil.
Bydd y safbwyntiau ac arbenigedd ychwanegol hyn yn helpu i lywio'r gwaith ymchwil a gyhoeddir. Gall cynnwys y cyhoedd ychwanegu gwerth a dwyn manteision annisgwyl. Mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn gwneud ymchwil yn fwy perthnasol a dibynadwy, ac yn fwy tebygol o gael effaith gadarnhaol ar gleifion o'r herwydd.
Creu partneriaethau ymgysylltu
Rydym yn awyddus i ddatblygu a chynnal partneriaethau ymgysylltu cadarn gyda'r nifer fawr o randdeiliaid sydd gennym, sy'n dwyn manteision i'r Ysgol, y gymuned leol, a thu hwnt.
Dylanwadu, ehangu, a hysbysu
Drwy ddatblygu ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid polisi i wella ein dealltwriaeth, gweithrediad a defnydd o allbynnau ymchwil.
Er mwyn ehangu a llywio agweddau'r cyhoedd am iechyd a gofal cymdeithasol, rydym hefyd yn cynnal rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Nod y darlithoedd hyn yw agor meysydd y ceir pryderon yn eu cylch yng ngofal iechyd, a chyflwyno ymchwil newydd am faterion iechyd.
Astudiaethau achos ymgysylltu
Mae gennym ymchwilwyr ar draws yr Ysgol sy'n ymwneud â phob math o weithgareddau ymgysylltu i gefnogi eu gwaith.
Rhagor o wybodaeth
Os oes diddordeb gennych mewn ymgysylltu â ni, neu os hoffech gael gwybod rhagor am ein gweithgareddau ymgysylltu, cysylltwch â: