Astudiaethau: Dr Pauline Ashfield-Watt
O ran ei hymchwil, mae gan Pauline ddiddordeb mewn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o iechyd, a’r modd maen nhw’n ymwneud ag e yn rhan o’u trefn feunyddiol.
Yr Ymchwil
Mae gan Pauline ddiddordeb mewn defnyddio dulliau digidol a’r celfyddydau i wella iechyd.
Mae ganddi ddwy rôl yn Isadran Meddygaeth y Boblogaeth, sef Rheolwr Astudio HealthWise Cymru - arolwg cyfrinachol ar y we o oedolion sy’n byw yng Nghymru (defnyddir i wella iechyd yn y dyfodol) - a chynnal ymchwil i wella ffyrdd o adnabod a thrin hypercolesterolaemia cynhenid (FH), colesterol uchel a etifeddwyd.
Yr Ymgysylltu
Y cynulleidfaoedd allweddol
Gwasanaethau cynorthwyo’r rhai sy’n byw gyda hypercolesterolaemia cynhenid yn y deyrnas hon; mudiadau’r trydydd sector megis HEART UK a Sefydliad y Galon Prydain; mudiadau i gleifion megis Fforwm Teuluoedd FH Cymru; plant, pobl ifanc a’u teuluoedd; proffesiynolion materion FH y GIG.
Y math o ymgysylltu
Hysbysu ac addysgu cleifion mae’r cyflwr newydd gael ei ganfod ynddyn nhw, ynghyd â’u teuluoedd.
Yr ymwneud
Y cynulleidfaoedd allweddol
Plant a phobl ifanc mae’r cyflwr wedi’i ganfod ynddyn nhw.
Dyma’r math o ymwneud
Roedd Pauline am helpu plant a phobl ifanc i drafod eu profiad o’r cyflwr trwy ddull diddanol a diddorol y byddai modd ei ddefnyddio ymhlith plant eraill, eu teuluoedd a phroffesiynolion iechyd.
Mae fideos byrion yn boblogaidd ac mae modd eu llunio a’u gwylio trwy amryw ddyfeisiau sy’n addas i blant. Mae llunio fideo yn weithgaredd cydweithredol a diddorol ac mae tystiolaeth wedi dangos y bydd yn gwella ymgysylltu a llythrennedd yn yr ystafell ddosbarth.
Profodd y prosiect hwn ddichonoldeb defnyddio gweithdai llunio fideos i ymgysylltu â phlant a’u galluogi i ddweud eu dweud am eu profiad o fyw gyda hypercolesterolaemia cynhenid.
Y Cymhelliant
Roedd Pauline am gynnig gwybodaeth am fyw gyda’r cyflwr o safbwynt plentyn i hysbysu pobl ifanc roedd newydd ei ganfod ynddyn nhw ynghyd â’u teuluoedd a phroffesiynolion iechyd.
“Roedd yn bwysig cyfleu gwybodaeth a phrofiadau dilys. Dewisais ddull roeddwn i’n gobeithio y byddai’n un diddanol a defnyddiol i’r plant o dan sylw - fel y gallen ni lunio fideo fyddai’n apelio at bobl ac yn eu hysbysu am hypercolesterolaemia.”
Y Datblygu Proffesiynol
Delfryd gwreiddiol Pauline oedd mai’r bobl ifanc fyddai’n llywio cynnwys a llinell stori’r fideo achos ei bod am i’w hanes dilys ddod trwodd heb angen iddi hi na’r fideograffydd ddylanwadu’n fawr arno.
Roedd yn anodd gwneud hynny, fodd bynnag, am fod angen rhoi cyfarwyddiadau eglur i’r plant er mwyn llunio fideo cyn pen 2-3 awr. Rhaid i fideo fod yn ddigon da i’w lledaenu ymhlith plant a phobl ifanc eraill ac arnynt y cyflwr, hefyd.
Mae cynnwys plant a phobl ifanc sy’n byw gyda’r cyflwr wedi bod o gymorth mawr i Pauline wrth ddysgu faint maen nhw’n ei ddeall ac yn ei gamddeall amdano. “Mae trefn y gweithdy wedi fy ngalluogi i fynd i’r afael â’r materion hynny a’u cynnwys yn y sesiynau. O ganlyniad, fodd bynnag, roedd angen mwy o amser na’r disgwyl i orffen y fideos.”
Y Dysgu
Roedd y prosiect hwn yn ddefnyddiol iawn ynglŷn â phrofi dull llunio fideos sketchnote – dysgwyd gwersi o ran trefnu gweithdy, rheoli disgwyliadau, pennu’r hyn sy’n ymarferol yn yr amserlen a nodi’r hyn sy’n bwysig i’r plant a’r bobl ifanc.
Deilliodd ohono sawl syniad ar gyfer gweithdai’r dyfodol. Tawelodd feddwl Pauline y byddai modd defnyddio’r dull mewn cyd-destunau ymchwil ac ymgysylltu eraill, hefyd.
Gwers bwysig arall ddaeth o’r prosiect oedd bod angen peth amser i ddod i adnabod y gynulleidfa rydych chi’n anelu ati.
“Mae bywydau cymdeithasol plant a phobl ifanc yn brysur ac, felly, roedd yn anodd trefnu gweithdai y gallai digon ddod iddynt. Roedd angen rhagor o gymorth ar y plant a’r bobl ifanc i greu stori a naratif, hefyd. Roedd ysgrifennu sgript yn feichus i rai - yn rhy debyg i waith ysgol, efallai. Pe baen ni wedi defnyddio mwy o eiriau’r plant ar ôl sesiynau hel syniadau, gallasai fod yn well.”
Dyma fersiwn fyrrach o'r astudiaeth achos lawn.
Darllenwch yr astudiaeth achos lawn
Dr Pauline Ashfield-Watt - public engagement case study
View Dr Pauline Ashfield-Watt's public engagement case study.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltwch Pauline ag Ian am ei brofiadau
Cael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a chyflawniadau o fewn yr Ysgol Meddygaeth.