Astudiaethau: Dr Alan Parker
Mae’r ymchwil yn labordy Alan yn canolbwyntio ar ddatblygu ‘firysau oncolytig’ i drechu canser.
Yr Ymchwil
Mae’r ymchwil yn labordy Alan yn canolbwyntio ar ddatblygu ‘firysau oncolytig’ i drechu canser. A hwythau’n bathogenau esblygedig, mae firysau’n eithriadol o ran heintio celloedd, amlhau ac ymledu ymhlith celloedd cyfagos. Mewn celloedd iach, bydd hynny’n achosi clefydau.
Yr Ymgysylltu
Y cynulleidfaoedd allweddol
Plant oedran ysgol a’r cyhoedd.
Y Cymhelliant
Hysbysu ac addysgu plant ysgol a’r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch fy rôl yn wyddonydd a’r datblygiadau diweddaraf mewn therapi genynnau.
Mae Alan yn llysgennad cofrestredig i STEMNet ac mae’n mynd yn aml i ysgolion lleol i ennyn diddordeb disgyblion mewn therapi genynnau.
Mae gan Alan sawl rôl gyda Chymdeithas Prydain er Therapi Genynnau a Chelloedd megis trefnu diwrnod ymgysylltu cyhoeddus blynyddol y gymdeithas. Mae’r achlysur hwnnw’n cynnig cyfle i bobl gnoi cil ar ymchwil arloesol yn rhad ac am ddim gyda gwyddonwyr, cleifion, myfyrwyr ymchwil a chlinigwyr/nyrsys yn ogystal ag ystyried effaith ymchwil o’r fath ar ein cymdeithas ac ar unigolion.
Mae Alan yn flogiwr brwd ac mae wedi ysgrifennu sawl erthygl i’r BSGCT ac adnoddau addysgol i Gymdeithas America er Therapi Genynnau a Chelloedd.
Y Cymhelliant
Mae Alan yn frwd dros ymgysylltu â lleygwyr i gyfleu ei wybodaeth wyddonol - dyna agwedd mae’n ei mwynhau’n fawr. “Rwy’n gweithio mewn maes gwyddonol sy’n effeithio’n fawr ar ein cymdeithas gyfoes. Mae cancr wedi cyffwrdd â bywyd bron pawb. Wrth sôn am ddefnyddio firysau i drechu cancr, bydd y cwestiynau diddorol a ofynnir yn cyfeirio fy ymchwil nesaf.”
Yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni, mae’n fwyfwy pwysig ennyn diddordeb pobl mewn ymchwil - nid yn unig er atebolrwydd, ond i fanteisio i’r eithaf ar effaith ymchwil, hefyd. Hoffai Alan gynnig cyfle i bobl/cleifion gymryd rhan yn ei ymchwil nesaf, ac mae’n awyddus i fanteisio ar rwydweithiau cyfredol y rhai sydd am gymryd rhan mewn ymchwil i’r perwyl hwnnw.
Y Datblygu Proffesiynol
Trwy ei waith ymgysylltu, mae Alan wedi dysgu ei bod yn bwysig cyfleu ei ymchwil ar ffurf y gall pobl aeddfed ac ifanc ei deall.
“Po fwyaf o sylw y gallaf ei dynnu at fy ymchwil, mwyaf o les fydd yn deillio ohoni. Rwyf i o’r farn bod cyfrifoldeb arnaf am helpu pobl i ddeall fy ngwaith a’u galluogi i bwyso a mesur ei effaith yn briodol.”
I gynnal ymchwil ymgysylltiedig o safon, mae Alan yn credu bod angen medrau cyfathrebu da ynghyd â’r gallu i wrando’n astud, deall eich cynulleid
Y Dysgu
Mae Alan wedi dysgu rhywbeth yn sgîl pob gweithgaredd ymgysylltu. “Mae’n ymddangos bod gwir ddiddordeb gan bobl yn fy ngwaith.
Yn yr ystafell ddosbarth, gall plant ofyn cwestiynau anarferol sy’n codi materion pwysig o ran fy ymchwil. Bydd cleifion yn gofyn cwestiynau pwysig iawn, hefyd - gan eich atgoffa y dylai rhywbeth o wir les ddeillio o’ch ymchwil.”
Dyma fersiwn fyrrach o'r astudiaeth achos lawn.
Darllenwch yr astudiaeth achos lawn
Dr Alan Parker - public engagement case study
View Dr Alan Parker's public engagement case study.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Cysylltwch ag Alan am ei brofiadau
Cael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a chyflawniadau o fewn yr Ysgol Meddygaeth.