Ewch i’r prif gynnwys

Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPIE)

Mae cynnwys ac ymgysylltu yn rhan annatod o waith academaidd yr Ysgol Meddygaeth ac mae’n hanfodol er mwyn gwella gweithgareddau craidd yr Ysgol sef ymchwil, addysg a hyfforddiant.

Fideo sy’n edrych ar gynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil

Mae cynnwys ac ymgysylltu yn creu dialog ac ymddiriedaeth rhwng ymchwil a chymdeithas. Mae’n gofalu bod canlyniadau ein gwaith yn mynd y tu hwnt i feysydd traddodiadol academaidd, busnes a llywodraeth.

Mae'n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent ac yn ehangu a llywio agwedd y cyhoedd. Mae hefyd yn gwella ansawdd, perthnasedd ac effaith ein hymchwil ac yn cyfrannu at economi a lles cymdeithasol yn y dyfodol.

Edrychwch ar ein gweithgareddau...

Engagement activities

Gweithgareddau cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd

Rydyn ni’n cynnal ystod eang o weithgareddau, yn gweithio gydag ysgolion ac yn cynnwys y cyhoedd a chleifion yn ein hymchwil.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein gweithgaredd, cysylltwch â::

Ymgysylltu Meddygaeth