Gweledigaeth ac uchelgais
Ein gweledigaeth yw rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn. Bydd ein cydweithio a’n harloesi bob amser yn canolbwyntio ar anghenion cleifion.
Caiff ymchwil ei gyrru gan greadigrwydd a chwilfrydedd, gyda’r awydd i fodloni anghenion clinigol a gofal iechyd.
Bydd ein rhaglenni addysg yn ysbrydoli ein myfyrwyr a’n staff.
Ein huchelgais
Ein huchelgais cyffredinol yw bod yn neg uchaf ysgolion meddygaeth y DU. Wrth gyflawni hyn byddwn:
- ar flaen y gâd mewn ymchwil feddygol o’r radd flaenaf
- yn rhoi profiad addysgol sy’n rhoi boddhad i’n myfyrwyr
- yn creu clinigwyr ac ymchwilwyr rhagorol at y dyfodol
- yn gwella iechyd a chyfoeth pobl Caerdydd, Cymru a thu hwnt
- yn cynnal amgylchedd busnes proffesiynol gyda rheolaethau ariannol cryf a thwf a datblygiad a gynllunnir
- yn sicrhau bod ein staff yn cael eu cynorthwyo a’u hannog i ddatblygu gyrfa i gyflawni eu potensial.
Mae ein themâu rhyngddisgyblaethol yn amrywio o ymchwiliad labordy i ymarfer clinigol, mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.