Amdanom ni

Rydym yn gyfleuster modern sy'n cynnig mannau gweithio aml bwrpas a chymorth proffesiynol ar gyfer busnesau newydd ym maes biodechnoleg a thechnoleg feddygol.
Ers 1992 rydym wedi cynnig desgiau, swyddfeydd a labordai pwrpasol i amrywiaeth eang o gwmnïau. Ategir hyn gan dîm busnes gwybodus a bywiog ynghyd â bwrdd strategol amlwg a gweledigaethol.
Mae'r fenter ar y cyd rhyngom ni a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi helpu llawer o fusnesau'r tenantiaid i lwyddo i gael mynediad i ecosystem y gofal iechyd a gwyddorau bywyd yn lleol ac yn fyd-eang.
"Mae Medicentre Caerdydd wedi darparu gofod cost-effeithiol i Cellesce, a'r hyblygrwydd i gael labordai a swyddfeydd, a'r gallu i ehangu wrth i’n cwmni dyfu. Mae lleoliad y Medicentre yn ddelfrydol; yn ganolog i Gaerdydd ac yn agos at ein partneriaid academaidd, clinigol a banc bio allweddol. Mae cefnogaeth a gwasanaeth rheolwyr a staff Medicentre wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni sefydlu ein gweithrediadau yma."
Byddwn yn parhau i fuddsoddi oherwydd ein bod ni'n gweld gwerth yr hyn rydym yn ei gynnig bob dydd ac ym mhob tenant.