Ewch i’r prif gynnwys

Ei Mawrhydi’r Frenhines 1926-2022

Mae'r Is-Ganghellor wedi mynegi cydymdeimlad y brifysgol at aelodau'r Teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines.

Mewn llythyr at y teulu Brenhinol, talodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, deyrnged i synnwyr ysbrydoledig y Frenhines o ddyletswydd ac ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus.

Dyma a ddywedodd yr Athro Riordan: “Fel y teyrn fu’n gwasanaethu hwyaf ym Mhrydain, bu’r Frenhines yn arweinydd canolog ac yn un â’r gallu i unoli ers cenedlaethau lawer.

“Yn arweinydd eiconig mewn byd ansicr sy’n newid o hyd, bydd y Frenhines yn cael ei chofio am ei hymroddiad diflino i wasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol.

“Rydym yn hynod falch o fod wedi cael ein hanrhydeddu gan Wobrau Pen-blwydd y Frenhines, gwobr a sefydlwyd i gydnabod rhagoriaeth ac arloesedd sy'n dod â manteision ehangach i'r byd.

“Yn ogystal, cafodd y brifysgol y fraint o groesawu’r Frenhines ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol i’r brifysgol yn ystod ei theyrnasiad. Nid oedd yr un yn fwy o bleser nag ym 1993, pan enwyd un o adeiladau’r brifysgol i gydnabod ei gwasanaeth cyhoeddus diflino.

“Ar lefel bersonol, cefais y pleser mawr o groesawu’r Frenhines wrth iddi agor Canolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn 2016.

“Yr hyn wnaeth fy nharo yn ystod ei hymweliad oedd ei diddordeb gwirioneddol mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a oedd ganddi wrth gwrdd â disgyblion o ysgolion lleol, staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

“Ar ran Prifysgol Caerdydd, anfonaf ein cydymdeimlad dwysaf at y Teulu Brenhinol ar adeg sy’n sicr o fod yn anodd ac emosiynol dros ben.”

Er teyrnged, bydd holl faneri’r brifysgol yn chwifio ar hanner mast yn ystod y 10 niwrnod nesaf.

Gall staff a myfyrwyr dalu eu teyrngedau a’u parch personol eu hunain drwy lofnodi'r llyfr ar-lein swyddogol i fynegi cydymdeimlad.

Yn ogystal, gellir gweld llyfrau mynegi cydymdeimlad a lleoliadau i osod blodau yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.

Cewch hyd i’r holl wybodaeth sy'n ymwneud â digwyddiadau cyhoeddus a gweithgareddau swyddogol yn dilyn marwolaeth y Frenhines ar wefan y Teulu Brenhinol.