Colofn Barn y Brifysgol – Hydref 2024
Y llynedd, a minnau newydd gyrraedd Cymru yn Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, ysgrifennais yn y golofn hon fod sector y prifysgolion bellach yn wynebu cyfnod tyngedfennol o ran y cyd-destun ariannol anghynaliadwy.
Er gwaethaf y cynnydd bach yn y ffioedd dysgu yng Nghymru, a oedd serch hynny i’w groesawu, ychydig iawn sydd wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae cyllid cyhoeddus yn dynn o hyd ac mae meysydd gwariant eraill, wrth reswm, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’n gwleidyddion.
Mae llawer o straeon wedi bod yn y newyddion am brifysgolion sy’n mynd i’r afael â’r pwysau ariannol a’r diffygion sy’n dod i’r amlwg ac mae’r rhan fwyaf – os nad pob un – yn mabwysiadu rhyw lun ar fesurau lliniaru. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o’r rhain: rydym newydd gwblhau cylch o ddiswyddo gwirfoddol.
Ysgrifennais yn ddiweddar at bob aelod o’r staff i ddweud ein bod yn wynebu diffyg gweithredu gwerth £30m ym mlwyddyn ariannol 23/24. Pe na baem wedi cymryd camau yng nghanol y flwyddyn, byddai’r diffyg hwnnw wedi bod yn waeth o lawer.
Er nad ydym mewn trafferthion ariannol uniongyrchol – mae gennym gronfeydd wrth gefn a fydd yn lleddfu’r pwysau yn y tymor byr – ni allwn barhau i ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn hyn i dalu am gostau gweithredu.
Yn fyr, mae’n rhaid inni adfer y sefyllfa pan fydd ein costau’n is na’n hincwm – ac rydym yn ceisio gwneud hynny o fewn system gyllido ddrylliedig.
Roedd y cyfnod tyngedfennol y cyfeiriais ati’n gynharach wedi ein gorfodi i ofyn y cwestiwn ‘pa fath o brifysgol rydyn ni eisiau bod, a beth fydd ein dyfodol? Roedd y broses gyfranogol honno – Y Sgwrs Fawr – yn cynnwys mewnbwn gan bob un o’n rhanddeiliaid, a’r canlyniad yw ein strategaeth newydd – Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd.
Gan ieuo ein hanes, ein gwerthoedd, ein cryfderau, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau oll â’i gilydd, a chan ddefnyddio ein harbenigedd academaidd a phroffesiynol, mae’r cyfeiriad bellach yn glir gennym wrth inni weithio gyda’n gilydd tuag at 2035.
Yn ymarferol, mae'n golygu newid. Newid sy’n canolbwyntio ar sicrhau symudedd cymdeithasol a datblygu economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd.
Mae'n golygu symleiddio prosesau llywodraethu, lleihau’r llwyth gwaith, biwrocratiaeth a dyblygu yn ogystal â chanolbwyntio ar ddeilliannau.
Mae'n golygu dadfuddsoddi er mwyn ailfuddsoddi yn y meysydd a'r gweithgareddau newydd y manylir arnynt yn y strategaeth. Mae hyn yn golygu ystyried yrystad o’r newydd er mwyn sicrhau bod gennym leoedd gwell sy’n wyrddach ac a fydd yn caeleu defnyddio i’w llawn botensial.
Mae’n golygu bod yn uchelgeisiol dros Gaerdydd a Chymru, bod ymhlith y prifysgolion gorau un, sicrhau ymchwil ac addysg sy’n ymateb i heriau mawr ein hoes a diogelu ein graddedigion at y dyfodol yn eu bywyd a’u gyrfa, a hynny mewn byd sy’n gyfnewidiol ac yn ansicr.
Yn olaf, mae'n golygu ailystyried ein gweithgareddau ac ymrwymo i fentrau newydd. Yn rhan o hyn mae gweithgarwch trawswladol newydd, ailystyried ein partneriaethau byd-eang gan sicrhau eu bod yn decach ac o fudd i bawb yn ogystal ag ymrwymo i fodel ledled y Brifysgol sy’n canolbwyntio ar ddysgu gydol oes sy’n hyblyg.
Ddeuddeg mis yn ôl, dywedaisy byddai gofyn inni wneud penderfyniadau anodd ynghylch atal neu gyfyngu ar rai gweithgareddau, newid y ffordd rydym yn gweithio a dileu tasgau nad ydynt yn ychwanegu gwerth.
Mae'r gwaith hwn wedi dechrau dan arweiniad ein strategaeth newydd sy'n llywio cyfeiriad y dyfodol.
Ni fydd y llwybr o’n blaenau bob amser yn un syml – bydd penderfyniadau anodd i’w gwneud, ac mae’r flwyddyn i ddod yn debygol o fod yn un heriol – ond mae gennym y ddawn a’r gwytnwch i symud y Brifysgol yn ei blaen yn llwyddiannus er mwyn cyfrannu, mewn ffordd fwy ystyrlon byth, i Gymru, y DU a’r byd ehangach.
Yr Athro Wendy Larner
Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd