Ewch i’r prif gynnwys

Marwolaeth Yr Athro Syr Mansel Aylward CB

Gyda thristwch mawr y mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth yr academydd a’r meddyg iechyd cyhoeddus Yr Athro Syr Mansel Aylward CB, a fu farw ddydd Mercher, 29 Mai 2024. Drwy gydol ei yrfa arbennig, chwaraeodd Syr Mansel ran annatod ym meysydd darparu gofal iechyd ac ymchwil iechyd yng Nghymru – yn ogystal â bod yn Brif Swyddog Meddygol, Syr Mansel oedd Cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llundain. Er mwyn cydnabod ei wasanaeth helaeth i iechyd a gofal iechyd, cafodd ei urddo’n farchog yn 2010 yn rhan o Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Dywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Trist iawn oedd cael gwybod am farwolaeth Syr Mansel Aylward CB. Mae wedi gwneud cyfraniadau enfawr i iechyd a lles pobl yng Nghymru, a bydd effaith ei waith yn parhau i wasanaethu’r cyhoedd yn genedlaethol, yn lleol ac yn gymunedol yng Nghymru ymhell i’r dyfodol.

“Yng Nghymru a’r DU, mae meysydd darparu gofal iechyd ac ymchwil iechyd wedi elwa o gyfraniad Syr Mansel, ac mae ei effaith ynghlwm wrth foment arbennig yn hanes Cymru. Syr Mansel oedd un o’r meddygon cyntaf i gyrraedd trychineb Aberfan ym 1966 – yn fyfyriwr meddygol yn ei flwyddyn olaf, gofalodd am y rhai a anafwyd, a rhoddodd driniaeth i’r achubwyr a oedd wedi cael trawiadau ar y galon wrth durio drwy’r rwbel.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg hon.”