Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2024

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr arian ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2024. Hefyd, roedd hi yn y 109fed safle o blith 246 o gyflogwyr y DU am gynhwysedd pobl LHDTC+.

Cyn hynny, roedd gan Brifysgol Caerdydd wobr aur, roedd ymhlith y 10 cyflogwr mwyaf cynhwysol gorau ym Mhrydain, a hi oedd y Brifysgol yn y safle uchaf ar restr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn 2022. Yn 2023, doedd Prifysgol Caerdydd ddim wedi cyflwyno cais, gan ganolbwyntio yn lle ar adnewyddu strwythurau a phrosesau ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Er ein bod ni’n siomedig i beidio â bod ymhlith y 100 cyflogwr gorau ym Mhrydain, dydy’r canlyniad ddim yn annisgwyl. Cafodd ein cais ei gyflwyno gan wybod bod gennyn ni waith i'w wneud i wella ein cynwysoldeb. Wrth gymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall mae asesiad allanol wedi’i gynnal o feysydd sy’n gryfderau i ni, a meysydd lle mae angen i ni wella. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gynllunio a blaenoriaethu ein gwaith fel bod modd i ni roi newid a gwelliannau gwirioneddol ar waith ar gyfer ein haelodau staff LHDTC+. O hyn ymlaen, rydyn ni’n bwriadu cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob dwy flynedd. Bydd hyn yn rhoi amser i ni roi argymhellion a newidiadau ystyrlon ar waith.

Rydyn ni wedi cefnogi a hyrwyddo’r gymuned LHDTC+ ers tro, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn lle cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr, myfyrwyr a staff LHDTC+.