Ymddygiad staff ar y cyfryngau cymdeithasol - 06/07/22
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn ymwybodol o sylwadau a wnaed gan aelod cyfredol o staff y Brifysgol ar gyfrif personol ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r sylwadau hyn yn adlewyrchu safbwyntiau a/neu farn Prifysgol Caerdydd.
Mae gennym ganllawiau i staff ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar ein mewnrwyd. Rydym yn disgwyl i bob defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol personol gan weithwyr y Brifysgol ddilyn yr un safonau y mae'n rhaid i fyfyrwyr a staff eu dilyn fel yr amlygir yn ein Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio a'n rheoliadau TG.
O ganlyniad, gallwn gadarnhau ein bod yn ymchwilio i nifer o gŵynion. Felly, byddai'n amhriodol gwneud sylwadau pellach hyd nes y byddwn wedi cwblhau ein hymchwiliadau.