Datganiad ynghylch astudiaeth cyn-argraffu Prifysgol Caerdydd am effeithlonrwydd cegolch yn erbyn SARS-COV-2 in vitro:
Meddai Dr Richard Stanton, prif awdur yr astudiaeth darllenydd feiroleg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r astudiaeth hon yn ychwanegu at y lenyddiaeth sy’n dod i’r amlwg bod nifer o gegolchion sydd ar gael yn gyffredinol ac sydd wedi’u dylunio i ymladd yn erbyn clefyd y deintgig, yn gallu cael gwared ar goronafeirws SARS-CoV-2 (a choronafirysau cysylltiedig eraill) hefyd wrth eu profi mewn labordai mewn amodau sy’n efelychu ceudod y geg/trwyn mewn tiwb profi.
“Nid yw’r astudiaeth hon wedi’i hadolygu gan gymheiriaid na’i chyhoeddi gan olygu nad yw gwyddonwyr eraill wedi’i harchwilio eto. Dyma’r broses arferol a gynhelir gydag ymchwil academaidd. Erbyn hyn, mae wedi’i chyflwyno i’w chyhoeddi mewn cyfnodolyn.
“Mae’n werth nodi bod modd tarfu ar goronafirysyau yn llawer haws na llawer o firysau a bacteria eraill gan ei fod yn cynnwys amlen lipid firysol. Mae astudiaethau’n mynd rhagddynt i weld a all y dull hwn gael gwared ar y feirws ymhlith pobl.
“Yn y gwddf dynol, mae’r feirws yn cael ei gynhyrchu o hyd ac o hyd, felly os oes effaith, bydd yn bwysig gweld pa mor hir mae’n para ac a allai leihau trosglwyddiadau e.e. mewn ymchwiliadau deintyddol, ymchwiliadau o’r geg/gwddf gan feddygon teulu, neu gysylltiadau tymor byr gyda chleifion agored i niwed neu bobl eraill.
“Dylai pobl barhau i ddilyn y camau atal a gyflwynwyd gan lywodraeth y DU, gan gynnwys golchi dwylo’n aml a chadw pellter cymdeithasol. Byddem yn annog pobl i ddefnyddio cegolchion yn ofalus bob amser a chadw at ganllawiau’r gwneuthurwyr.”