Datganiad a gyflwynwyd i Wales Online - 29/03/23
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Datganiad a gyflwynwyd - 29/03/23
Mae’r broses y cyfeiriwyd ati bellach ar ben. Nid yw’r unigolyn yn gweithio i Brifysgol Caerdydd mwyach.
Datganiad a gyflwynwyd - 15/04/21 (P.M.)
Yn dilyn cyfarfod gyda’r aelod o staff y prynhawn yma, mae ymchwiliad ffurfiol i’r honiadau wedi cael ei lansio. O ganlyniad, ni fydd yr aelod staff unigol yn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau addysgu, nes bydd rhybudd pellach. Byddai'n amhriodol cynnig unrhyw sylw pellach nes bod canlyniad yr ymchwiliad yn hysbys.
Datganiad a gyflwynwyd - 15/04/21 (A.M.)
Rydym yn ymwybodol o honiadau dienw ar y cyfryngau cymdeithasol yn erbyn aelod presennol o staff. Er na allwn wneud sylwadau ar honiadau dienw, gallwn gadarnhau ein bod yn cymryd honiadau o'r fath o ddifrif ac yn cymryd camau priodol. Mae gennym bolisïau sy'n llywodraethu perthnasoedd personol agos rhwng staff a myfyrwyr. Gall unrhyw fyfyriwr sydd â phryderon gysylltu â Thîm Ymateb i Ddatgeliadau y Brifysgol, tîm o staff arbenigol y Brifysgol sydd wedi'u hyfforddi i ymateb i hawliadau o'r fath. Bydd aelod o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn gallu esbonio'r gwahanol opsiynau cymorth ac adrodd sydd ar gael, a gallant atgyfeirio myfyrwyr at wasanaethau arbenigol, os dewisant.