Datganiad a gyflwynwyd i The Tab - 22/04/21
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym wedi cael gwybod am y cynnwys hynod annymunol hwn, ac rydym yn deall ei fod yn peri gofid. Gallai'r cynnwys hwn achosi trawma hefyd i unrhyw un sydd wedi profi ymosodiad rhywiol neu drais rhywiol, sy'n peri pryder mawr.
I fod yn gwbl glir: rydym yn cymryd y materion hyn o ddifrif. Rydym wedi trosglwyddo'r wybodaeth hon i gydweithwyr yn Heddlu De Cymru ac mae gwasanaeth diogelwch y Brifysgol yn ymwybodol o’r sefyllfa hefyd.
Er ein bod wedi cael gwybod bod y cynnwys wedi dod o gyfrif ffug ac rydym am dawelu meddwl cymuned ein myfyrwyr, rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn wneud i fyfyrwyr deimlo'n llai diogel.
Nid ydym yn goddef unrhyw drais nac achosion o gam-drin, ac mae hynny’n cynnwys trais sy’n cael i fygwth. Bydd unrhyw un sy'n ymddwyn fel hyn neu'n cefnogi’r ymddygiad yn wynebu gweithdrefnau disgyblu.
Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau o'r fath i rannu'r wybodaeth hon.
Os oes unrhyw un yn teimlo dan fygythiad neu’n poeni am eu diogelwch uniongyrchol, dylent gysylltu â’r heddlu neu wasanaeth diogelwch y Brifysgol.