Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad yn dilyn llofruddiaeth George Floyd - 02/06/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae llofruddiaeth George Floyd wedi ein hatgoffa mewn modd trasig o'r ffactorau systemig a'r heriau sy'n wynebu cymdeithas.

Rydym yn deall yr emosiynau a'r teimladau dwfn y mae'r digwyddiad hwn wedi eu hachosi. Byddem yn annog unrhyw fyfyrwyr neu aelodau staff y mae'r sefyllfa hon wedi effeithio arnynt i fanteisio ar ein hadnoddau a'n cefnogaeth, gan gynnwys ein Panel Goruchwylio Cydraddoldeb Hiliol, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, ac – ar gyfer staff – Care First.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i greu cymuned sy'n seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch: cymuned lle gall pawb deimlo'n hapus i fod fel y dymunant fod, a ffynnu ar sail hynny. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n rhaid inni ganfod cryfder yn yr egwyddorion hynny.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein cryfderau ymchwil i helpu creu byd gwell: trwy addysgu, trwy sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn y gyhoeddfa, a thrwy baratoi ein myfyrwyr i gyfranogi o'n cymdeithas ddemocrataidd mewn modd gweithredol.

Rydym yn ddiwyro: nid oes lle i hiliaeth a chamwahaniaethu yn ein cymdeithas ni.