Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad yn ymateb i lythyr agored gan grwpiau protest - 29/05/24

Neges gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner ar ran Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Rydym wedi derbyn llythyr wedi’i lofnodi gan Cymru Students for Palestine sy’n nodi cyfres o alwadau ar y Brifysgol gan y gwersyll y tu allan i Brif Adeilad y Brifysgol.

Rydym wedi cael ein hysgwyd gan ddigwyddiadau yn Gaza ac Israel, ac rydym yn cydnabod cryfder teimladau sy’n bodoli yn ein cymuned. Rydym yn cydnabod bod y gwersyll wedi bod yn heddychlon ac rydym yn diolch i’r protestwyr am sicrhau nad ydynt yn tarfu ar fyfyrwyr sy’n adolygu na’r rhai sy’n sefyll arholiadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr, sy’n ymweld â’r gwersyll yn rheolaidd. Rydym wedi darparu tai bach a swyddogion diogelwch ychwanegol i sicrhau diogelwch a lles trigolion y gwersyll.

Rydym bob amser wedi ceisio cynnal deialog adeiladol gyda'n myfyrwyr er mwyn mynd i'r afael â’r materion anodd y maent yn teimlo'n angerddol yn eu cylch. Roedd ein Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Claire Morgan, yn falch o gael cwrdd â chynrychiolwyr myfyrwyr mewn cyfarfod ddydd Gwener diwethaf yn Undeb y Myfyrwyr. Mae uwch aelodau o staff hefyd wedi bod mewn cyswllt â chymdeithasau myfyrwyr dros y misoedd diwethaf, yn enwedig dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Rydym yn derbyn hawl ein myfyrwyr i brotestio’n heddychlon ac yn cydnabod y rhan bwysig y mae protest yn ei chwarae mewn cymdeithas ddemocrataidd. Credwn ein bod wedi cymryd camau i helpu i hwyluso protestio heddychlon. Rydym hefyd yn derbyn bod rhyddid barn yn golygu bod gan unigolion hawl i leisio barn hyd yn oed lle gallai’r safbwyntiau hynny dramgwyddo neu beri gofid i eraill, ac rydym bob amser wedi ceisio sicrhau bod cyfnewid syniadau yn bosibl.

Fodd bynnag, mae dyletswydd arnom yn ogystal i sicrhau bod pob aelod o staff a myfyriwr yn gallu byw, gweithio, astudio a chymdeithasu heb ofn ac yn ddidrafferth. Gwyddom fod bodolaeth y gwersyll yn peri gofid i rai o aelodau ein cymuned. Mae rhai aelodau o staff a myfyrwyr wedi ysgrifennu ataf i a fy nghydweithwyr i ddweud bod rhai o’r deunyddiau sy’n cael eu harddangos yn y gwersyll ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn peri gofid iddynt. Rydym yn cymryd y cwynion hyn o ddifrif.

Rydym wedi hysbysu Cymru Students for Palestine a chynrychiolwyr y myfyrwyr na fyddwn yn cyfathrebu gyda chyfrif e-bost dienw, ac yn hytrach yn amlinellu ein hymatebion i alwadau’r gwersyll yma.

Galwadau’r gwersyll

  1. Mae’r galwad cyntaf yn gofyn i’r Brifysgol ddad-fuddsoddi ar unwaith o “bob cwmni sy’n cynorthwyo Israel i gyflawni hil-laddiad ar bobl Gaza”, gan restru’n benodol BAE Systems, Elbit, Airbus, Thales, EX Libris, Northrop Grumman a Rolls Royce.

    Nid oes gan Brifysgol Caerdydd fuddsoddiadau uniongyrchol nac anuniongyrchol yn unrhyw un o’r cwmnïau hyn.

    Nid ydym ychwaith yn buddsoddi’n anuniongyrchol nac yn uniongyrchol yn unrhyw un o’r cwmnïau yng Nghronfa Ddata’r Cenhedloedd Unedig Yn Unol â Phenderfyniad 31/36 y Cyngor Hawliau Dynol, a ddiweddarwyd ar 30 Mehefin 2023. Nid ydym yn buddsoddi yn nyled sofran Israel.

    Mae polisi buddsoddi moesegol y Brifysgol ar gael ar ein gwefan. Mae gan y Brifysgol Banel Cynghori ar Gyllidwyr sy’n rhoi cyngor i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ar briodoldeb derbyn, trosglwyddo neu wrthod cyllid allanol gan ffynonellau dyngarol, grantiau a chontractau ymchwil, neu weithgareddau datblygu masnachol. Yn olaf, rydym wedi cytuno’n ddiweddar â rheolwyr ein cronfeydd y byddwn yn cyhoeddi ein daliannau buddsoddi a byddwn yn ceisio gwneud hynny’n fuan.

    Mae'r llythyr yn galw arnom i wahardd cwmnïau fel BAE Systems rhag recriwtio ein myfyrwyr mewn ffeiriau gyrfaoedd a gweithgareddau cysylltiedig. Gwneir penderfyniadau ynghylch pwy sy’n cael bod ar y campws at ddibenion recriwtio yn unol â datganiad y Cod Moeseg a Didueddrwydd. Cytunwyd ar hyn gan Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Brifysgol, ac fe'i nodwyd yn y Senedd, sydd ill dau â chynrychiolaeth myfyrwyr.

    Mae'r Cod Moeseg yn helpu'r Brifysgol i gynnig gwasanaeth diduedd sy'n caniatáu i fyfyrwyr a graddedigion i wneud dewisiadau gwybodus am eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod rhai’n anghytuno â’r dull hwn o weithredu, credwn ei bod yn iawn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael cyswllt ag ystod lawn o gyflogwyr iddynt gael gwneud y penderfyniadau cywir am eu gyrfaoedd. Byddai ceisio gwahardd neu foicotio cyflogwyr yn peryglu ein hymrwymiadau i ryddid barn a rhyddid academaidd, ac ni fyddai’n rhoi ystyriaeth i ystod eang y safbwyntiau a geir ym mhob rhan o’r campws.

  2. Mae’r ail alwad yn galw ar y Brifysgol i “ddangos yn union i ble mae ein harian yn mynd gyda thryloywder ariannol llwyr, a rhoi’r pŵer i ni benderfynu ble mae’n cael ei fuddsoddi” ac i “sefydlu pwyllgorau o fyfyrwyr a gweithwyr i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut mae arian yn cael ei fuddsoddi”.

    Rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol ar ein gwefan bob blwyddyn. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr a staff ar bob un o'n huwch-bwyllgorau cyllid, yn ogystal ag ar Gyngor y Brifysgol. Mae cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr yn eistedd ar Bwyllgor Cyllid ac Adnoddau'r Brifysgol, ac un arall ar yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio. Gwahoddwyd cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr ar yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio hefyd i gyfarfod â darpar reolwyr cronfa newydd pan bennwyd rheolwr cronfa newydd yn 2023.

    Yn aml, mae rhesymau dilys, a masnachol-sensitif pam na allwn gyhoeddi enwau pob un o'r cwmnïau y mae'r Brifysgol yn gweithio gyda nhw. Fodd bynnag, o ystyried y pryderon a godwyd, byddwn yn ystyried pa wybodaeth ychwanegol y gellid ei chyhoeddi yn ein datganiadau ariannol. Fel y soniwyd uchod, rydym wedi cytuno’n ddiweddar â rheolwyr ein cronfeydd y byddwn yn cyhoeddi daliannau buddsoddi a byddwn yn ceisio gwneud hynny’n fuan.

  3. Mae’r trydydd galwad yn galw ar y Brifysgol i “gyflwyno datganiad i gondemnio’r hil-laddiad a dinistrio’r system addysg yn Gaza, a thrwy gyfrwng Pwyllgorau o Fyfyrwyr a Gweithwyr, i ail-fuddsoddi yn addysg Palesteina trwy helpu i ailadeiladu eu system addysg sydd wedi’i dinistrio, a chynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr o Balesteina sydd wedi’u dadleoli.” 

    Rydym yn gwerthfawrogi ac yn deall y byddai nifer o bobl yn hoffi i'r Brifysgol gymryd safbwynt eglur am y gwrthdaro. Mae'r gwrthdaro wedi peri gofid ac yn parhau i beri gofid eithriadol i lawer o aelodau o’n cymuned. Ni fyddwn yn cyhoeddi datganiad o’r fath. Mae'n bwysig bod prifysgolion yn parhau i fod yn fannau lle gellir clywed a thrafod nifer o safbwyntiau gwahanol. Ein rôl ni yw cadw’r gofod hwn yn agored er mwyn galluogi aelodau o’n cymuned i gyfnewid syniadau a barn, a gall cyhoeddi datganiadau o dan yr amgylchiadau hyn arwain at ddistewi lleisiau neu leihau gallu unigolion i leisio barn wahanol.

    Mae hefyd yn bwysig ein bod yn deall cwmpas ein dylanwad fel sefydliad. Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi ein cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn, ac ar y camau y gallwn eu cymryd yn rhagweithiol i wella ansawdd bywyd yma ac yn fyd-eang, gan gynnwys yn Gaza.

    Rydym yn ymwybodol o'n dyletswydd i helpu i ailadeiladu'r system addysg ym Mhalesteina ac rydym wedi bod yn gweithio gydag eraill yn y sector i gyflawni'r ddyletswydd hon. Mae academyddion yn ein prifysgol, er enghraifft, yn gweithio gyda phrifysgolion Palesteina i'w cefnogi i ddatblygu adnoddau i addysgu eu myfyrwyr o bell. Byddwn yn parhau i weithio gyda Universities UK a’r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (Council for At-Risk Academics) ar raglenni traws-sector i helpu academyddion a myfyrwyr fel ei gilydd.

    Yn ogystal, ac o ganlyniad i natur barhaus y rhyfel hwn, rydym yn ailedrych ar ein cynnig o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd wedi'u dadleoli gan ryfel neu drychinebau naturiol. Rydym wedi ymrwymo i drafod hyn ymhellach gyda'n myfyrwyr i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei ddatblygu yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr sydd wedi'u dadleoli ledled y byd.

  4. Mae'r galwad olaf yn gofyn i’r Brifysgol “gefnogi rhyddid a diogelwch myfyrwyr ac academyddion fel ei gilydd, yn enwedig pan mae’n dod i fynegi barn o blaid Palesteina a threfnu o blaid yr achos. Dylid rhoi cymorth pellach i fyfyrwyr ac academyddion Palesteina sydd wedi colli aelodau o’u teulu yn ystod yr hil-laddiad”.

    Rydym wedi ceisio galluogi staff a myfyrwyr i ddangos eu cefnogaeth i Balesteina yn ddiogel ac yn heddychlon a byddem hefyd yn cefnogi unrhyw grŵp sydd am fynegi barn wahanol neu i’r gwrthwyneb. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn rhyddid barn a rhyddid academaidd.

    Nid ydym wedi ymyrryd yn y ralïau, y gweithredoedd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, na'r gwersyll. Rydym wedi darparu tai bach a chymorth diogelwch 24 awr i’r gwersyll. Dim ond pan fydd gweithgarwch yn dechrau ymyrryd â busnes y Brifysgol neu lle mae ymddygiad yn torri ein polisïau Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y byddwn yn cymryd camau.

    Rydym wedi datgan yn agored sawl gwaith bod cefnogaeth ar gael i’n myfyrwyr a’n staff sy’n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro. Os yw'r gwrthdaro wedi effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni. Siaradwch â'ch tiwtor personol, eich rheolwr llinell, Pennaeth eich Ysgol neu uwch gydweithiwr rydych yn ymddiried ynddynt. Yna, gallwn gynnig cymorth penodol i chi, boed hynny’n ariannol, yn fugeiliol neu ar sail amgylchiadau esgusodol.

Gobeithiwn fod y datganiad hwn yn helpu pob aelod o gymuned ein Prifysgol i ddeall ein safbwynt. Mae’r rhain yn amgylchiadau dyrys, emosiynol ac anodd. Rydym yn gweithio'n galed i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a moesol, ac mae anghenion ein staff a’n myfyrwyr amrywiol yn ganolog i’r penderfyniadau yr ydym yn eu cymryd.

Dymuniadau gorau,

Wendy Larner