Rhybudd tywydd coch wedi’i gyhoeddi yng Nghymru - 7/12/24
Wrth i Storm Darragh agosáu at y DU, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi 'rhybudd coch' ar gyfer rhannau o Gymru, gan gynnwys Caerdydd ac ardaloedd cyfagos, ar gyfer dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.
Oherwydd hynny, ac i fod mor ofalus â phosibl, rydym yn cynghori ein staff a'n myfyrwyr i beidio â dod i'r campws ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.
Bydd y Brifysgol ar agor o hyd ar gyfer gwasanaethau hanfodol yn unig, ond rydym yn cynghori staff yn gryf i weithio gartref lle bo hynny'n bosibl, ac i fyfyrwyr beidio â mynd i'r campws.
Mae negesau ar wahân wedi’i hanfon at fyfyrwyr y prynhawn yma.
Fel arfer, rydym yn ddiolchgar i'r cydweithwyr hynny fydd yn gweithio ar y campws yfory i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hynny.
Y wybodaeth ddiweddaraf
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am:
- unrhyw newid yn y tywydd gan y Swyddfa Dywydd
- amodau teithio arferol ar y ffyrdd gan Traffig Cymru
- gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau bysiau, yn ninas Caerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd
- gwasanaethau trenau gan Trafnidiaeth Cymru