Ewch i’r prif gynnwys

Streic 25/05/2016

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn siomedig gyda phenderfyniad Undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) i ddechrau gweithredu diwydiannol.

"Mae'r mwyafrif llethol o staff y Brifysgol yn sylweddoli bod yr esgid fach yn gwasgu ym mhob sefydliad Addysg Uwch ar hyn o bryd.

"O ganlyniad i'r diwrnodau streic sydd wedi'u cyhoeddi, a'r bleidlais o blaid gweithio i gontract, mae'r Brifysgol wedi cymryd camau fel bod hyn yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar ein myfyrwyr.

"Mae'r neges i'n myfyrwyr yn syml: bydd popeth yn mynd rhagddo yn ôl yr arfer a bydd eich arholiadau yn cael eu cynnal ar y diwrnodau a'r amseroedd a drefnwyd.

"Gyda lwc, bydd UCEA – sy'n trafod cyflogau ar ran pob prifysgol - ac UCU yn parhau i gynnal trafodaethau ac yn dod i gytundeb er mwyn osgoi unrhyw gamau pellach a allai amharu ar ein myfyrwyr."