Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau ACM 2021

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Claire Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr: “Rydym yn gwybod bod y 18 mis diwethaf wedi bod yn hynod heriol i'n holl fyfyrwyr a staff academaidd, a gallai hyn fod yn gyfrifol am rai o'r canlyniadau.

“Y garfan hon yw’r gyntaf i gael ei heffeithio gan y pandemig trwy gydol eu blwyddyn olaf, gan wynebu nifer o gyfnodau clo a chyfyngiadau trwy gydol eu hastudiaethau.

“Dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn cydnabod ac yn talu teyrnged i’r ymdrech a’r gwytnwch y mae ein myfyrwyr wedi’u dangos drwyddi draw, tra hefyd yn cydnabod nad yw’r canlyniadau’n adlewyrchu’r ymdrech anhygoel y mae llawer o gydweithwyr wedi’i rhoi dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf am ychwanegu fy niolch fy hun i ddiolchiadau'r Is-Ganghellor am y modd y mae cymaint ohonoch wedi ceisio’ch gorau dros ein myfyrwyr er gwaethaf popeth.

“Er bod y gostyngiad mewn boddhad cyffredinol myfyrwyr yn amlwg yn siomedig mae sail i fod yn optimistaidd gyda rhai pethau cadarnhaol amlwg yn ein canlyniadau.

“Hoffwn longyfarch yr ysgolion a welodd welliant yn y boddhad cyffredinol, a'r naw rhaglen hynny a gyflawnodd dros 90%. Rwy'n falch o ddweud bod un cwrs hefyd wedi cofnodi boddhad cyffredinol o 100% - llongyfarchiadau i BA Archaeoleg ar y canlyniad rhagorol hwn. Mae'r rhain yn gyflawniadau sylweddol, er gwaethaf yr heriau niferus, gan gynnwys bod 80% o fyfyrwyr yn teimlo'n ddiogel wrth astudio gyda ni a chytunodd 80% eu bod wedi gallu cael gafael ar yr adnoddau dysgu cywir yn ystod cyfnod coronafeirws.

“Nawr mae angen i ni edrych ar y canlyniadau a'r adborth ansoddol yn fwy manwl, gan adlewyrchu ar ein camau nesaf mewn ymgynghoriad â myfyrwyr a staff. Cyn bo hir, byddwn yn gweithio gydag Ysgolion ar gynlluniau gwella ar gyfer 2022, dan arweiniad ein his-strategaeth Addysg a Myfyrwyr.”