Ewch i’r prif gynnwys

Neges i fyfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth o Bennaeth yr Ysgol - 24/11/20

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Annwyl Fyfyrwyr,

Hoffwn dynnu eich sylw at siarter Cymdeithas Feddygol Prydain ar gyfer ysgolion meddygol er mwyn atal a mynd i'r afael ag aflonyddu hiliol; cyhoeddi ein bod yn ei mabwysiadu ac yn ymrwymo i'w nodau.  Cyfrannodd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd at y broses ymgynghori helaeth a helpodd i lunio'r ddogfen ac rydym yn falch o gael ein cynnwys yn y siarter sy’n disgrifio ein gwaith o ran yr hyfforddiant a'r addysg EDI rydym yn ei gynnig. Mae hyn yn cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi digwydd dros y 4 blynedd diwethaf ers i fyfyrwyr meddygol gynhyrchu drama o'r enw Anaphylaxis a oedd yn cynnwys themâu hiliol a homoffobig annerbyniol. Nid yw'r Ysgol wedi anghofio'r tramgwydd, y poen a'r gofid mawr, ar canlyniadau hirdymor, a achoswyd i'n myfyrwyr, i’n staff ac i’n cymunedau ehangach gan y ddrama a arweiniwyd gan fyfyrwyr.

Rhoddodd Adroddiad annibynnol dilynol Bhugra (dan gadeiryddiaeth yr Athro Dinesh Bhugra, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017) ysgogiad ychwanegol i'r Ysgol Meddygaeth gymeradwyo amrywiaeth o gamau cadarnhaol gan gynnwys:

1. Adolygiad o gynnwys EDI o fewn cwricwlwm meddygol C21 ac mewn modiwlau ôl-raddedig

2. Hyfforddiant EDI i Staff a mentora arno, gan gynnwys pum sesiwn hyfforddi cydraddoldeb hiliol yn yr Ysgol.

3. Dull adferol o ymdrin â chwynion ym MEDIC gyda hyfforddiant i staff a lansio'r System Ymateb i Ddatgelu.

4. Cymorth i ddwy gymdeithas i fyfyrwyr i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol:

5. Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Staff a Myfyrwyr.

6. Grŵp Diwygio EDI Meddygol.

Mae'r Ysgol Meddygaeth wedi dysgu llawer o wersi ers 2016 ac mae mabwysiadu'r Siarter yn gam pellach ar ein taith EDI i fynd i'r afael â hiliaeth a chydag ymrwymiad i newid diwylliannol gynhwysol. Mae Siarter Aflonyddu Hiliol Cymdeithas Feddygol Prydain i atal a mynd i'r afael ag aflonyddu hiliol mewn Ysgolion Meddygol, yn darparu canllawiau gwerthfawr a gwell cymorth i fyfyrwyr a staff.

Rydym yn llwyr gefnogi siarter Cymdeithas Feddygol Prydain a byddwn yn annog pob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i ddarllen y siarter fel elfen bwysig o'ch datblygiad proffesiynol a phersonol.

Mae'r siarter yn rhannu camau gweithredu yn bedwar maes:

  • Cefnogi unigolion i ddweud eu dweud;
  • Sicrhau prosesau cadarn ar gyfer adrodd a thrin cwynion;
  • Prif ffrydio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws yr amgylchedd dysgu;
  • Mynd i'r afael ag aflonyddu hiliol ar leoliad gwaith.

Yr wyf eisoes wedi cynnull cyfarfod gyda Cymdeithas Feddygol Prydain, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Phrifysgol Abertawe i fabwysiadu dull Cymru gyfan o ymdrin â'r Siarter hon. Rwyf wedi cytuno i hyrwyddo hyn yn ein cyfarfodydd Adolygu Addysgu Blynyddol sydd ar ddod gyda Byrddau Iechyd Prifysgol Cymru.

O fewn y siarter, mae canllawiau i fyfyrwyr meddygol Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar yr hyn y gallant ei wneud os ydynt yn profi aflonyddu hiliol. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor i bob myfyriwr meddygol neu aelod o staff ar beth i'w wneud os yw’n dyst i aflonyddu hiliol a sut i fod yn wyliwr gweithgar. Mae Siarter Cymdeithas Feddygol Prydain yn cyflwyno'r dull ABC:

  • Asesu er diogelwch: os ydych chi'n gweld rhywun yn cael trafferth, gofynnwch i chi'ch hun a allwch chi helpu'n ddiogel mewn unrhyw ffordd
  • Byddwch mewn grŵp: mae'n fwy diogel herio ymddygiad neu ymyrryd mewn grŵp, ac os nad yw hynny’n bosibl, dylech wneud adroddiad am yr ymddygiad i rai eraill sy'n gallu gweithredu.
  • Cysuro'r person y gallai fod angen help arno a gofynnwch a yw’n iawn.

Fel Pennaeth ysgol fy ymrwymiad personol yw canolbwyntio ar sicrhau bod proses gadarn ar gyfer adrodd a thrin cwynion ac yn bwysicaf oll rhoi gwybod i fyfyrwyr a staff am ein camau gweithredu i ymateb i aflonyddu hiliol.  Yn y ffordd hon, hoffwn i'r holl fyfyrwyr a staff fod â hyder i roi gwybod am aflonyddu gan wybod y bydd camau'n cael eu cymryd ac y bydd ymddygiad annerbyniol o unrhyw fath, ym mhob lleoliad, yn cael sylw gan yr Ysgol gyda phwyslais ar ddull adferol sy'n canolbwyntio ar yr achwynydd.

Byddwch yn gweld y Siarter hon yn cael ei hyrwyddo ymhellach drwy gydol y flwyddyn academaidd a thu hwnt. Am y tro, helpwch ni drwy ymgysylltu â'r agenda hon. Mae ein Hysgol yn hyrwyddo'r ethos mai cyfrifoldeb pawb yw creu amgylchedd cynhwysol ac ni ddylai unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ysgwyddo mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol ar eu pennau eu hunain. Cyfrifoldeb pawb yw eu haddysgu eu hunain am hiliaeth a bod yn ymwybodol o'u rhagfarn ddiarwybod eu hunain. Yn ganolog i hyn y mae'r ethos y mae ein staff a'n cymuned o fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar urddas a pharch.

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn falch i fabwysiadu’r siarter hon fel ymrwymiad clir i wrth-hiliaeth a galluogi pob myfyriwr i ffynnu a sicrhau mai ef yw’r meddyg gorau y mae’n dyheu am fod.

Mae'r ddolen â siarter aflonyddu hiliol Cymdeithas Feddygol Prydain i'w weld isod.

Siarter Aflonyddu Hiliol Cymdeithas Feddygol Prydain

Cofion gorau

Steve

Yr Athro Stephen Riley                                      Professor Stephen Riley

Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth                         Head of the School of Medicine