Neges ar y cyd i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru - 25/10/21
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn anesmwyth iawn am yr adroddiadau o sbeicio diodydd a sbeicio trwy chwistrellu ledled y DU.
Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, ynghyd â Chyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru’n cydweithio i sicrhau diogelwch ein myfyrwyr wrth iddyn nhw fwynhau’r holl fanteision o fyw ac astudio yn ein dinas wych.
Hoffem fynegi mai diogelwch ein myfyrwyr a’n staff yw ein prif flaenoriaeth.
Mae sbeicio diodydd a sbeicio trwy chwistrellu yn ffiaidd, yn anghyfreithlon ac yn newid a pheryglu bywyd y dioddefwr.
Gall arwain at ddedfryd o 10 mlynedd yn y carchar i’r cyflawnwr, sydd ag ôl-effeithiau o ran eu bywyd academaidd a’u cyflogadwyedd.
Mae Prifysgolion yn gweithio gyda’u Hundebau Myfyrwyr ac mae Heddlu De Cymru’n gweithio gyda safleoedd trwyddedig i’w rhybuddio o’r dulliau sbeicio yr adroddwyd amdanynt mewn ardaloedd eraill o’r DU ac yn gofyn iddynt fod yn arbennig o wyliadwrus ar hyn o bryd.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol y ddinas, sy’n cynnwys y Cyngor a’r heddlu, yn gweithio ar sawl cam gweithredu gan gynnwys:
- Ymgysylltu â lleoliadau trwyddedig i sicrhau bod llinellau clir ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau.
- Treialu pecynnau profi a chaeadau diod diogel mewn safleoedd trwyddedig.
- Gweithio gydag adran damweiniau ac achosion brys i nodi dioddefwyr sy'n gollwng wrth eu derbyn.
- Parhau i ddefnyddio bwâu synhwyro metel wrth fynedfeydd lleoliad.
Anogwn unrhyw un sy’n credu eu bod nhw wedi dioddef o sbeicio ar unrhyw ffurf i gysylltu â Heddlu De Cymru.
- Anfonwch neges breifat ar Facebook/Twitter
- Trwy e-bost: SWP101@south-wales.police.uk
- Ffoniwch: 101