Ymateb i lythyr y Crwner - 09/02/2022
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym wedi ymateb i lythyr y Crwner ynglŷn â marwolaeth drasig ein myfyriwr, Mared Foulkes.
Roedd Mared yn aelod gwerthfawr o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a'r Brifysgol ehangach, a hoffem fynegi ein cydymdeimlad diffuant unwaith eto â'i theulu a'i ffrindiau.
Yn ein hymateb i'r Crwner, rydym wedi amlinellu nifer o gamau gweithredu uniongyrchol a pharhaus.
Rydym yn cydnabod y gallai'r broses ar gyfer cadarnhau a rhyddhau canlyniadau ein harholiadau ailsefyll yn ystod y flwyddyn fod yn gymhleth a dryslyd.
O ganlyniad, bydd yr holl ganlyniadau sydd ar gael yn cael eu cadarnhau ym mhrif gyfarfodydd Bwrdd Arholi'r Brifysgol ym mis Mehefin o hyn ymlaen. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn gwybod canlyniadau’r holl asesiadau y maent wedi'u cymryd, gan gynnwys y rhai maent wedi’u hailsefyll yn ystod y flwyddyn, ac na fyddant yn cael canlyniadau dros dro sy'n cael eu cadarnhau'n ddiweddarach ym mis Medi.
Mae'r arfer o ddefnyddio marc tybiannol neu amcangyfrif o farc i gofnodi ‘methiant’ lle nad yw'r myfyriwr wedi bodloni safon cymhwysedd, wedi'i atal ar unwaith.
Mae adolygiad eisoes wedi dechrau o drawsgrifiadau’r canlyniadau a gyhoeddir. Bydd y trawsgrifiadau hyn yn rhoi’r canlyniadau ar gyfer pob rhan o fodiwl, yn nodi dyddiad yr asesiad a rhif yr ymgais, yn ogystal â chadarnhau unrhyw gynnydd, gofyniad i ailsefyll neu ddyfarniad academaidd.
Rydym hefyd yn benderfynol o wella tôn ac iaith ein holl gyfathrebiadau ysgrifenedig i'n myfyrwyr. Byddwn yn cyfeirio'n benodol at ble gall myfyrwyr gael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael gan eu Hysgol a’r Brifysgol yn ehangach os ydynt yn poeni am eu canlyniadau.
Bydd y camau hyn i gyd ar waith cyn rhyddhau ein cyfres nesaf o ganlyniadau ym mis Gorffennaf 2022.
Rydym yn gobeithio bod y camau hyn yn dangos pa mor benderfynol yr ydym i ymateb i'r pryderon a godwyd gan y Crwner.