Ewch i’r prif gynnwys

Taliadau bwrsariaeth

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd ynghylch y rhybudd, yr amseriad a natur y newidiadau a wneir i’r ffordd y mae myfyrwyr yn derbyn ac yn cael gwario taliadau bwrsariaeth yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw. Mae nifer o fyfyrwyr a fynegodd bryderon ynghylch dyrannu credydau drwy Astudio a Mwy eisoes wedi cael yr hawl i gael pob ceiniog a ddyrannwyd ar eu cyfer fel arian parod. Bydd yr un opsiwn yn cael ei ymestyn i bob myfyriwr arall sy'n gymwys ar gyfer bwrsariaeth. Byddwn yn ysgrifennu atynt i'w diweddaru, i ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir, ac i roi cyngor ar y camau nesaf. Bydd y myfyrwyr hynny sydd eisoes wedi archebu adnoddau dysgu trwy Astudio a Mwy, neu sy’n dymuno eu prynu, yn gallu gwneud hynny o hyd.