Ymosodiadau rhywiol
Yn ôl llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn sylweddoli bod y rhain yn ddigwyddiadau difrifol dros ben ac rydym yn cydweithio'n agos â Heddlu'r De i helpu eu hymchwiliad.
"Mae swyddogion yr heddlu yn cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal a bydd rhagor ar batrôl ac i'w gweld yn amlwg i gynnig sicrwydd.
"Mae'r heddlu hefyd yn atgoffa pobl i fod mewn parau neu grwpiau wrth gerdded o gwmpas yn y nos, yn ogystal â chadw at leoedd sydd â digon o olau.
"Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i greu amgylchedd diogel i'n myfyrwyr, mae ein tîm diogelwch wedi ymweld â phreswylfeydd myfyrwyr i drafod diogelwch personol.
"Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi proffesiynol i'n myfyrwyr. Dylai unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiadau hyn siarad â rhywun yn y gwasanaeth cefnogi myfyrwyr.”
24 Medi 2015
Cyngor ynghylch diogelwch gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr
Neges ar y cyd ynghylch diogelwch yn dilyn yr ymosodiadau rhywiol ger y Brifysgol
Annwyl bawb,
Byddwch eisoes yn ymwybodol o'r ymosodiadau rhywiol mewn tri digwyddiad ar wahân ger y Brifysgol. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau difrifol dros ben ac mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio'n agos â Heddlu'r De i helpu eu hymchwiliad.
Er bod Caerdydd yn ddinas ddiogel a bod y rhain yn ddigwyddiadau eithriadol o anarferol, da chi, byddwch yn ofalus ac yn synhwyrol. Mae'r heddlu wedi awgrymu nifer o gamau diogelwch y dylem lynu atynt.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Aros mewn parau wrth gerdded o gwmpas yn y nos
- Cadw at leoedd sydd wedi'u goleuo'n dda a lle mae digon o bobl o gwmpas
- Cadw llygad ar eich ffrindiau
- Bod yn ddiogel ac yn synhwyrol
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i greu amgylchedd diogel yn y Brifysgol, rydym yn cymryd camau fydd, gyda lwc, yn tawelu meddyliau staff a myfyrwyr. Er enghraifft, mae ein tîm diogelwch wedi bod yn ymweld â neuaddau preswyl myfyrwyr i drafod diogelwch personol, ac mae cynllun tacsis diogel ar gael erbyn hyn ar gyfer staff yn ogystal â'r myfyrwyr. Mae'r cynllun yn caniatáu i chi gael eich casglu'n ddiogel gan Dragon Taxis unrhyw le yng Nghaerdydd i fynd â chi adref, hyd yn oed os nad oes gennych arian parod ar y pryd, ar yr amod bod gennych eich cerdyn myfyriwr neu'ch cerdyn staff.
Wrth gwrs, rydym eisoes yn cymryd camau diogelwch llym ym mhob un o'n neuaddau preswyl. Maent yn cael eu diogelu drwy’r amser, ddydd a nos, ac mae swyddog penodol ym mhob bloc. Bydd swyddogion yr heddlu ar batrôl ac i'w gweld yn amlwg yn yr ardal i gynnig sicrwydd.
Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi proffesiynol i'n myfyrwyr. Dylai unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiadau hyn siarad â rhywun yn y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr.
Byddwch yn wyliadwrus a rhowch wybod i'r heddlu am unrhyw beth amheus. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiadau, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 101, neu cysylltwch ag elusen Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.
Mae cyngor cyffredinol ynghylch diogelwch personol hefyd ar wefan y Brifysgol.
Yn gywir,
Yr Athro Patricia Price
Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd
Claire Blakeway
Llywydd Undeb y Myfyrwyr