Ymchwil gan ddefnyddio anifeiliaid
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae ein holl waith ymchwil sy'n defnyddio anifeiliaid yn ceisio lleddfu clefydau dynol a milfeddygol drwy wella dealltwriaeth feddygol, deintyddol, biolegol a milfeddygol. Mae gwaith ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n defnyddio cyffuriau seicoweithredol fel amffetaminau ac apomorffin ar lygod a llygod mawr yn cynnwys astudiaethau sy'n ymchwilio i feysydd fel clefydau niwro-ddirywiol a phobl sy'n gaeth i gyffuriau.
"Rydym yn cynnal gwaith ymchwil i ddatblygu therapïau celloedd newydd ar gyfer clefydau fel clefyd Parkinson a chlefyd Huntington. Yn gyffredinol, ystyrir mai'r gwaith hwn yw'r ymchwil sy'n fwyaf tebygol o arwain at ddatblygiadau pwysig o ran atgyweirio celloedd yn y clefydau niwro-ddirywiol difrifol hyn, gan roi gobaith newydd i gleifion a'u teuluoedd. Mae'r gwaith hefyd yn creu data sy'n uniongyrchol berthnasol i raglenni therapi celloedd ar gyfer strôc, dementia ac anafiadau i fadruddyn y cefn.
"Yn ogystal, mae gennym well dealltwriaeth o'r prosesau seicolegol a niwrogemegol sy'n arwain at deimlo bod yn rhaid cymryd cyffuriau, ac mae'n bosibl i hyn lywio dulliau therapiwtig o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau. Credwn yn gryf fod astudiaethau o'r fath yn foesegol, yn angenrheidiol ac yn gymdeithasol gyfiawn pan y'u cynhelir o dan y canllawiau caeth sy'n sicrhau'r lles gorau i anifeiliaid, ac wrth ddefnyddio dulliau sydd wedi'u creu i leihau poen neu ddioddefaint.
"Mae astudio anifeiliaid yn dal i fod yn hanfodol. Caiff yr holl waith ymchwil sy'n ymwneud ag anifeiliaid yng Nghaerdydd ei gyflawni o dan yr amodau llym a osodwyd gan ddeddfwriaeth y DU, gan gynnwys craffu moesegol llym. Rydym yn cydymffurfio'n llawn â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.
"Mae ein hanifeiliaid ymchwil yn cael gofal o'r radd flaenaf, a dim ond y nifer lleiaf posibl gaiff eu defnyddio. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo'n llwyr at egwyddor y 3R, a lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn osgoi defnyddio anifeiliaid gan ddefnyddio dulliau amgen.
"Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth agored a thryloyw am ein gwaith ymchwil sy'n defnyddio anifeiliaid, a safonau'r gofal a gaiff yr anifeiliaid, a'u lles. Ym mis Mai 2014, gwnaethom lofnodi'r Concordat ar Onestrwydd Ynghylch Ymchwil Anifeiliaid yn y DU."