MEDIC Forward - 22 May 2015
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Cyflwynwyd i Gair Rhydd 22/05/2015
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Byddai'n amhriodol gwneud sylw am unrhyw gais ariannu neu am amgylchiadau unigolyn wrth i broses ymgynghori Medic Forward fynd rhagddo. Nes cwblhau'r ymgynghoriad â staff, rhanddeiliaid, y Brifysgol ehangach, yr Undebau Llafur a'r unigolion eu hunain, byddem yn cynghori unrhyw un sydd am godi unrhyw bryderon i wneud hynny drwy'r sianeli mwyaf priodol."
Cyflwynwyd i Western Mail (dydd Iau 21/05/2015)
"Mae'r nifer rydych wedi'i nodi yn anghywir.
"Yn dilyn cyfnod o ymgynghori dwys gydag Undebau Llafur ac aelodau
staff, gallwn gadarnhau bod llythyrau wedi'u hanfon sy'n nodi bod swyddi'n
debygol o gael eu lleoli gyda pherygl o ddiswyddo, mewn meysydd dadfuddsoddiad.
"Byddai'n gwbl amhriodol ac anghywir trafod niferoedd penodol bryd hyn. Rydym yn parhau i ymgynghori ar y cyd â'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur, ac mae cyfnod ymgynghori unigol gyda staff yr effeithir arnynt bellach ar droed.
"Ymgysylltir â'n Partneriaid yn y GIG a rhanddeiliaid eraill ar gyfnodau allweddol drwy gydol y broses.
/Diwedd
Cyflwynwyd i BMJ Careers (dydd Iau
21/05/2015)
"Yn dilyn cyfnod o ymgynghori dwys gydag Undebau Llafur ac aelodau staff, gallwn gadarnhau bod llythyrau wedi'u hanfon sy'n nodi bod swyddi'n debygol o gael eu lleoli gyda pherygl o ddiswyddo, mewn meysydd dadfuddsoddiad.
"Byddai'n gwbl amhriodol ac anghywir trafod niferoedd penodol bryd hyn. Rydym yn parhau i ymgynghori ar y cyd â'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur, ac mae cyfnod ymgynghori unigol gyda staff yr effeithir arnynt bellach ar droed.
"Ymgysylltir â'n Partneriaid yn y GIG a rhanddeiliaid eraill ar gyfnodau allweddol drwy gydol y broses.
/Diwedd
Cyflwynwyd i Gair Rhydd (dydd Gwener 15/05/2015)
"Mae'n
bwysig nodi ein bod yn dal mewn cyfnod ymgynghori ac yn parhau i ymgysylltu â'n
cydweithwyr yn yr Undebau Llafur, yn ogystal â staff.
"Dylid hefyd pwysleisio nad yw MEDIC Forward yn fesur i arbed arian. Mae'n
ymwneud â chreu ysgol gynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cyfnod o
ddadfuddsoddiad, byddwn yn ailfuddsoddi yn ein meysydd cryfder.
"Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu'r meysydd hyn os ydym am fod ar flaen
y gad o ran anghenion newidiol y proffesiwn meddygol a'r cleifion y mae'n eu
gwasanaethu.
"Os ceir effaith negyddol ar feysydd ymchwil myfyrwyr ar ôl y cyfnod
ymgynghori, byddwn yn trin myfyrwyr fesul achos i ddod o hyd i'r ateb gorau i'w
sefyllfaoedd unigol.
"Bydd yr Ysgol yn ad-dalu unrhyw arian grant a gollir o ganlyniad i unrhyw
newidiadau. Bydd myfyrwyr yn cael goruchwylwyr newydd gydag arbenigedd addas os
bydd newidiadau'n arwain at golli cefnogaeth academaidd. Os nad oes cefnogaeth
ddigonol mwyach ar gyfer maes ymchwil penodol, bydd myfyrwyr yn cael eu rhoi ar
brosiect newydd.
"Ers dechrau'r cyfnod ymgynghori, rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â'r myfyrwyr a'r staff bob cam o'r ffordd, drwy gyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb, cylchlythyrau, cwestiynau cyffredin, y cyfryngau cymdeithasol, a gohebiaeth ebost gyson. Bydd hyn yn parhau drwy gydol y broses.
"Y
Deon Meddygaeth sy'n arwain prosiect trawsffurfio'r Ysgol, ac mae'n parhau i
weithio â pholisi drws agored. Mae
croeso hefyd i fyfyrwyr leisio eu syniadau neu eu pryderon gyda'u tiwtoriaid
personol neu'r cyfarwyddwr ymchwil ôl-raddedig."
/Diwedd
Cyflwynwyd i BMA News (dydd Gwener 15/05/2015)
"Yn
dilyn cyfnod o ymgynghori dwys gydag Undebau Llafur ac aelodau staff, mae'r
Ysgol wedi anfon llythyrau sy'n nodi bod swyddi'n debygol o gael eu lleoli gyda
pherygl o ddiswyddo, mewn meysydd dadfuddsoddiad.
"Rydym yn parhau i ymgynghori ar y cyd â'n cydweithwyr yn yr Undebau
Llafur, yn ogystal â dechrau ar gyfnod ymgynghori unigol gyda staff yr
effeithir arnynt. Gallwn gadarnhau nad academyddion meddygsol yw pob un
o'r aelodau staff y mae'r penderfyniadau hyn yn cael effaith arnynt.
"Ymgysylltir â'n Partneriaid yn y GIG a rhanddeiliaid eraill ar gyfnodau allweddol drwy gydol y prosiect hwn.
"Mae
Is-Ganghellor y Brifysgol wedi bod yn gohebu â chyd-gadeirydd BMA y Pwyllgor
Staff Academaidd Meddygol ar y mater hwn hefyd./Diwedd
Cyflwynwyd i Nursing in Practice (dydd Llun 11/05/2015)
"Rydym wedi ymrwymo i warchod
diogelwch swyddi ein staff i'r graddau mwyaf posibl.
Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn gyfnod ansicr i gydweithwyr, ac rydym yn
darparu'r holl gefnogaeth berthnasol wrth i ni weithio drwy'r cyfnod anodd hwn.
"Yn rhan o'r gefnogaeth hon, rydym wedi bod yn ymgynghori ar y cyd â'r tri
Undeb Llafur rydym yn eu cydnabod – UCU, Unsain ac Unite the Union – ers
dechrau'r prosiect ac rydym yn parhau i ymgynghori â nhw.
"Rydym yn mynd drwy gyfnod o newid mawr ar hyn o bryd, er mwyn bod ar
flaen y gad o ran anghenion newidiol y proffesiwn meddygol a'r cleifion y mae'n
eu gwasanaethu.
"Rydym wedi bod yn rhan o raglen Medic Forward ers mis Tachwedd y llynedd.
"Y rhaglen hon yw'r ysgogiad y tu ôl i'n huchelgais i fod ymhlith 10 ysgol
meddygaeth orau'r DU yn barhaol; bydd yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau
uchaf o ran addysgu ac ymchwil arloesol.
"Dim ond os yw wir yn berthnasol i'r
amgylchedd ac yn bodloni anghenion cleifion nawr ac yn y dyfodol y bydd ein
gwaith addysgu ac ymchwil yn cael yr effaith rydym am ei gweld.
"Mae sgiliau a gwybodaeth ein gweithwyr cyflogedig yn ased i'r Brifysgol,
ac yn ffactor blaenllaw yn ei llwyddiant.
"Bydd y newidiadau o ganlyniad i Medic Forward yn gwella enw da
Prifysgol Caerdydd fel ysgol meddygaeth o'r radd flaenaf.
"Yn benodol, bydd sefydlu Isadran Meddygaeth y Boblogaeth yn rhoi gwell
canolbwynt i'n gwaith ym meysydd meddygaeth ataliol ac iechyd cyhoeddus.
"Ein blaenoriaeth o hyd fydd darparu addysg feddygol o'r radd flaenaf drwy
waith ymchwil arloesol ac addysgu o'r safon uchaf. Rydym yn hyderus y bydd
Medic Forward yn arwain at Ysgol Meddygaeth sy'n addas ar gyfer y
dyfodol."
/Diwedd