Rhoddion i Brifysgol Caerdydd
Llythyr at Olygydd Western Mail mewn ymateb i sylw yn y cyfryngau am roddion i Brifysgol Caerdydd.
SYR - Syndod mawr i mi oedd darllen bod gan Brifysgol Caerdydd "roddwr dirgel" o'r Emiraethau Arabaidd Unedig. Nid oes gennym y fath beth.
Gwnaed y rhodd y gwnaethoch sylw amdani gan Mr Yousef Jameel, i gefnogi Canolfan Islam-y DU yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Ysgoloriaethau Jameel Prifysgol Caerdydd yn galluogi myfyrwyr deallus a phenderfynol i ddefnyddio eu gwybodaeth er budd cymunedau Mwslimaidd yn y DU. I'r rheini sydd â diddordeb, mae rhagor o wybodaeth am y rhodd hon a'r ysgolheigion y mae wedi eu noddi ar gael ar ein gwefan: http://sites.caerdydd.ac.uk/islamukcentre/jameel-scholarships/.
Mae'n well gan rai rhoddwyr fod yn ddienw, ond mae Mr Jameel yn fwy na bodlon i'w rodd hael gael ei chydnabod yn gyhoeddus – er nad yw'n mynd ati i geisio cyhoeddusrwydd. Nid oes unrhyw "ddirgelwch" yma.
Yn yr un modd â phrifysgolion eraill yng Nghymru a'r DU, mae Prifysgol Caerdydd yn elusen. Fel elusen, rydym bob amser yn ceisio rhoddion. Mae rhoddion yn helpu i gefnogi myfyrwyr Cymraeg a myfyrwyr eraill, yn ariannu ymchwil sy'n newid y byd, ac wrth gwrs, yn dod ag arian i economi Cymru.
Rydym yn hynod ddiolchgar i'n rhoddwyr, ac yn eu dathlu. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau lefelau rhoi tebyg i brifysgolion blaenllaw eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.
Yn gywir,
TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr