Cymhwyster Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS) Prifysgol Caerdydd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mewn cydweithrediad, mae'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) a Phrifysgol Caerdydd wedi nodi mater technegol gyda'r cymhwyster Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS).
Mae'r sefyllfa'n berthnasol i ddeintyddion a gofrestrwyd gyda'r GDC ar sail ennill cymhwyster o Brifysgol Caerdydd rhwng 2010 a 2014 YN UNIG.
O ganlyniad, mae'r GDC a Phrifysgol Caerdydd wedi ysgrifennu ar y cyd at yr holl ddeintyddion o dan sylw er mwyn esbonio beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn datrys y broblem.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC): www.gdc-uk.org/Newsandpublications/Pressreleases/Pages/GDC-to-rectify-technical-error-with-Cardiff-University-Bachelor-of-Dental-Surgery-(BDS)-qualification.aspx
Mae'n bwysig pwysleisio bod hawl gan y deintyddion o dan sylw barhau i weithio trwy gydol y broses; bydd eu henwau yn aros ar y gofrestr deintyddion a bydd eu cofrestriad yn parhau yn ôl yr arfer ar ôl cwblhau'r broses.
Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â:
Phrifysgol Caerdydd
Ffôn: 029 20 87 9488
E-bost: gdcregistration@caerdydd.ac.uk
Neu
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)
Ffôn: 020 7167 6000
E-bost: information@gdc-uk.org