Ewch i’r prif gynnwys

Diwygiedig: Adolygiad Annibynnol i ymchwilio i Faterion Cydraddoldeb Hiliol – 28 Medi 2016

Mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi Panel i gynnal adolygiad annibynnol er mwyn ymchwilio i faterion cydraddoldeb hiliol:

Cadeirydd

  • Dinesh Bhugra CBE - Athro Emeritws Iechyd Meddwl ac Amrywiaeth Ddiwylliannol yn Sefydliad Seiciatreg, Coleg y Brenin Llundain.

Aelodau'r Panel

  • Vanessa Cameron MBE - Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, fel aelod lleyg.
  • Harini Iyengar – Bargyfreithiwr gyda 11KBW sy'n arbenigo mewn Gwahaniaethu a Chydraddoldeb.
  • David Ruebain – Prif Weithredwr yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb, sy'n ceisio gwella a chefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith staff a myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae bywgraffiad o aelodau'r panel ar gael yn yr Atodiad.

Cylch Gorchwyl

Bydd y Panel yn ystyried profiad y myfyrwyr a'r staff o ran cydraddoldeb hiliol yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol a sut mae'r sefydliad yn ymateb i rwystrau sefydliadol a diwylliannol y mae staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu.

Bydd y Panel yn rhoi ystyriaeth benodol i bryderon diweddar mewn perthynas â'r ddrama Anaphylaxis a arweiniwyd gan y myfyrwyr, yn ogystal â chymdeithasau myfyrwyr ac arferion yn yr Ysgol Meddygaeth, er mwyn asesu eu heffaith ar staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.

Dyma gylch gorchwyl y Panel:

  • Ystyried y pryderon a fynegwyd ynghylch y gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr ac arferion yn yr Ysgol Meddygaeth. Yn benodol, bydd yn ystyried y rhai sy'n gysylltiedig â chynhyrchiad blynyddol y myfyrwyr, Anaphylaxis, a chynnig argymhellion perthnasol;
  • Clywed am brofiadau myfyrwyr a staff yn y Brifysgol ac amlygu unrhyw anghydraddoldebau hiliol a ddaw i'r amlwg yn ystod y trafodaethau hyn;
  • Yng ngoleuni profiadau staff a myfyrwyr, ystyried a gwneud argymhellion sy'n ymwneud ag effaith polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn ogystal â chwricwlwm academaidd a chlinigol yr Ysgol Meddygaeth wrth fynd i'r afael â materion amrywiaeth a phroffesiynoldeb;

Mae gweithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol wedi gorffen ystyried beth wnaeth y myfyrwyr unigol fu'n gysylltiedig ag Anaphylaxis 2016. Er mwyn bod yn gwbl deg, ni fyddai felly'n briodol i'r Panel Adolygu ailagor neu ailystyried y materion hynny.

Bydd y Panel yn cynnig argymhellion penodol o fewn fframwaith i'r Ysgol Meddygaeth a chymdeithasau myfyrwyr cysylltiedig. Bydd modd rhoi'r rhain ar waith yn ehangach mewn meysydd arferion proffesiynol eraill a'r Brifysgol yn gyffredinol.

Atodiad

Manylion bywgraffyddol

Cadeirydd - Yr Athro Dinesh Bhurga

Mae Dinesh Bhugra yn Athro Emeritws Iechyd Meddwl ac Amrywiaeth Ddiwylliannol yn Sefydliad Seiciatreg, Coleg y Brenin Llundain.

Roedd yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth Sefydliad De Llundain a Maudsley y GIG. Roedd yn Llywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion rhwng 1992 a 2014, ac mae'n Llywydd Cymdeithas Seiciatryddol y Byd ar hyn o bryd.

Mae'r Athro Bhugra wedi bod yn aelod o Bwyllgor Addysg Cymdeithas Seiciatryddol Ewrop, a bu'n arwain prosiect ymchwil rhyngwladol a ariannwyd gan Gymdeithas Seiciatryddol y Byd am recriwtio myfyrwyr meddygol i faes seiciatreg ar draws 23 o wledydd. Mae wedi arwain modiwlau hyfforddiant a dylanwadu ar gwricwla mewn llawer o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Tsieineaidd Hong Kong.

Mae wedi ysgrifennu/golygu dros 30 o lyfrau, 90 o benodau, 100 o erthyglau golygyddol a thros 180 o bapurau. Enillodd ei lyfr 'Textbook of Cultural Psychiatry' Wobr Ysgoloriaeth Greadigol 2012 gan y Gymdeithas Astudio Seiciatreg a Diwylliant, a chafodd ganmoliaeth yng Ngwobrau Llyfrau BMA yn 2008. Cafodd ei lyfr ‘Mental Health of Refugees and Asylum Seekers’ ei ganmol i'r cymylau yng Ngwobrau BMA 2011.

Mae'r Athro Bhugra yn arbenigwr ac yn sylwebydd cymdeithasol adnabyddus ym maes seiciatreg iechyd cyhoeddus: seiciatreg traws-ddiwylliannol, iechyd meddwl mewnfudwyr, proffesiynoldeb mewn seiciatreg, iselder, meddygaeth seicorywiol, darparu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.

Cewch ragor o wybodaeth yn: http://www.dineshbhugra.net/

Vanessa Cameron, MBE

Vanessa Cameron yw Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Hi sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli holl weithgareddau'r Coleg, ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad ym maes datblygu timau a rheoli sefydliadol. Mae Vanessa wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau llwyddiannus, gan gynnwys codi arian i wneud ffilm gwrth-stigma a ddangoswyd yn Sinemâu Warner, creu uned polisi, a sefydlu grŵp datblygu i godi arian mawr ei angen ar gyfer ymchwil.

Mae Vanessa wedi hyfforddi staff yn Sofia, Bwlgaria a Tbililsi, Georgia ynghylch sefydlu a rheoli sefydliadau seiciatrig newydd, ac mae wedi cael gwahoddiad i adolygu gweinyddiaeth Cymdeithas Seiciatrig y Byd.

Ers 2006, mae Vanessa wedi bod yn Aelod Lleyg Arbenigol o Wasanaeth y Tribiwnlysoedd ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae hi’n gweithio gyda Barnwr ac Aelod Meddygol i asesu'r adran cadw cleifion o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac mae wedi cynnal dros 250 o dribiwnlysoedd. Mae Vanessa hefyd yn Llywodraethwr ac yn Ymddiriedolwr yn Ysgolion Addysgol y Celfyddydau - Ysgol a Choleg sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau perfformio a theatr gerddorol yn benodol.

Cewch ragor o wybodaeth yn: https://uk.linkedin.com/in/vanessa-cameron-mbe-b2b04012

Harini Iyengar

Mae Harini yn Fargyfreithiwr gyda 11KBW, ac fe'i galwyd i'r Bar ym 1999.  Mae hi'n arbenigo yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyflogaeth, Gwahaniaethu a Chydraddoldeb, Addysg, Partneriaeth, Diogelu Data, a Chaffael.

Mae gwaith diweddar Harini yn cynnwys parhau i gynrychioli chwythwr chwiban y GIG, Dr Kevin Beatt, amddiffyn achos o erledigaeth sensitif, a chynrychioli menyw sy'n uwch-academydd a gyflwynodd honiadau o erledigaeth a gwahaniaethu ar sail rhyw yn erbyn prifysgol.  Mae ei gwaith ym meysydd gwahaniaethu a chydraddoldeb yn cynnwys cynrychioli gwahanol fenywod sy'n gweithio yn y Ddinas mewn nifer o achosion gwerth llawer o arian oedd yn ymwneud â gwahaniaethu a chael cyflog cyfartal. Bu Harini hefyd yn amddiffyn Heddlu Llundain yn erbyn achos anarferol o wahaniaethau ar sail rhyw gan swyddog drylliau wedi i'w gais am gymryd seibiant yn ei yrfa gael ei wrthod. Mae Harini hefyd yn ymgymryd â nifer cynyddol o achosion ym maes Addysg Uwch.

Mae'n un o Lywodraethwr Prifysgol Metropolitan Llundain ac yn ymddiriedolwr allanol o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Rhydychen.  Mae’n aelod o bwyllgor llywio Fforwm Menywod y Deml, yn fentor ffurfiol ar gyfer Cityparents, ac yn gyfwelydd hyfforddedig ar gyfer prosiect hanes llafar y Deml Fewnol.  Yn 2016, bu'n ymgeisydd yn etholiad Cynulliad Llundain Fwyaf dros blaid newydd sbon Cydraddoldeb Menywod yn etholiad cyntaf erioed y blaid.

Mae'r cyfryngau yn aml yn gofyn iddi am ei barn gyfreithiol arbenigol yn enwedig, yn fwyaf diweddar, Sky News, radio LBC a phapur newydd yr Independent.

Cewch ragor o wybodaeth yn: http://www.11kbw.com/barristers/profile/harini-iyengar

David Ruebain

David yw Prif Weithredwr yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb. Mae'n aelod o Grŵp Cynghori OFFA (Swyddfa Mynediad Teg), yn ymgynghorydd cydraddoldeb i Uwch-Gynghrair Lloegr, yn Ymddiriedolwr ADD (Action on Disability and Development), yn aelod o Bwyllgor Cyfiawnder a Hawliau'r Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree, yn Aelod o Fwrdd Golygyddol cyfnodolyn Disability and Society ac yn Gymrawd o'r Prosiect Americanaidd Prydeinig.

Roedd David yn gyfreithiwr wrth ei waith am 21 o flynyddoedd; yn fwy diweddar, bu'n Gyfarwyddwr Polisi Cyfreithiol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Prydain Fawr, a chyn hynny roedd yn bartner ac yn un o sylfaenwyr adran Cyfraith Anabledd, Cydraddoldeb ac Addysg, gyda Chyfreithwyr Levenes.

Mae David wedi cyhoeddi'n eang yn ogystal ag addysgu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ynghylch cyfraith cydraddoldeb, anabledd ac addysg. Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o sefydliadau gwirfoddol, drafftio Biliau Aelodau Preifat a chyflwyno sylwadau ar lafar i Bwyllgorau Seneddol.

Mae David yn awdur ac yn olygydd, ac enillodd Wobr Pobl y Flwyddyn RADAR am Hyrwyddo Hawliau Dynol Pobl Anabl yn y DU, 2002. Roedd hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflawniad Oes ym maes Hawliau Dynol yng Ngwobrau Canmlwyddiant Gazette Cymdeithas y Cyfreithwyr, ym mis Tachwedd 2003. Ym mis Awst 2006, cafodd David ei gynnwys ar restr o'r 25 o bobl anabl mwyaf dylanwadol yn y DU gan gylchgrawn Disability Now. Yn 2013, roedd ar 'Fynegai Dylanwad' gwasanaeth Disability News, ac roedd hefyd ar restr gyntaf a chyfredol Pŵer Anabledd yn 2014 a 2015.

Cewch ragor o wybodaeth yn: http://www.ecu.ac.uk/profiles/davidr/

Christine Werrell, Ysgrifennydd y Panel Adolygu

Christine Werrell yw Pennaeth Anabledd a Chydraddoldeb yr Is-adran Cefnogi a Lles Myfyrwyr, rhan o Wasanaethau Academaidd a Chefnogi Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd.

Mae Christine wedi gweithio ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth ers un mlynedd ar bymtheg ac mae ganddi MSc mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Yn ogystal â'i chyfrifoldeb dros reoli Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol, mae Christine yn cydlynu rhwydwaith Cysylltiadau Anabledd yr Ysgolion Academaidd. Mae hefyd yn un o swyddogion y Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac yn aelod o’r Is-Bwyllgor Derbyn Myfyrwyr.

Christine sy'n arwain y modiwl 'Dylunio a Datblygu Cwricwlwm Hygyrch' yn rhan o Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol, ac roedd yn aelod o Weithgor Cwricwlwm Cynhwysol y Brifysgol. Amlygodd y grŵp hwn rwystrau ac anfanteision o fewn dyluniad y cwricwlwm i fyfyrwyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae Christine yn aelod o Weithgor LGBT y Brifysgol.

Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol Ymarferwyr Anabledd (NADP) ers 2013. Sefydliad cenedlaethol yw hwn sydd wedi ymrwymo i wella datblygiad ac arferion proffesiynol ymarferwyr anabledd mewn addysg uwch a phellach. A hithau'n aelod o fwrdd y sefydliad, mae wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn ddiweddar yn cyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth y DU ynghylch eu newidiadau arfaethedig i Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA).

Cyn ymgymryd â'i rôl bresennol ym Mhrifysgol Caerdydd, Christine oedd Cydlynydd Anabledd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Roedd y rôl hon yn cynnwys cefnogi’r Coleg wrth baratoi ar gyfer dyletswyddau newydd y Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig (2001), a bu hefyd yn Ysgrifenyddes i'r Gweithgor Anabledd ar gyfer Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Roedd ei chyfrifoldebau’n cynnwys trefnu cynhadledd Cymru gyfan ar gyfer addysgwyr clinigol ynglŷn â gwneud addasiadau rhesymol mewn ymarfer clinigol.