Ebost ymddiheuro - Dr Helen McCarthy
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Yr ymateb a roddwyd i ITV - Dydd Iau 14 Ionawr 2021
Yn sgîl y digwyddiad, gofynnodd Pennaeth yr Ysgol i Dr McCarthy adael ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Amgylchiadau Esgusodol Israddedig yr Ysgol, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cadw hyder myfyrwyr yn y weithdrefn honno. Nid yw Dr McCarthy bellach yn ymwneud ag ystyriaethau amgylchiadau esgusodol.
Ebost a anfonir i'r holl fyfyrwyr BI3354 Anatomeg Uwch ar ran Dr Helen McCarthy - dydd Mercher 13 Ionawr 2021
Annwyl fyfyrwyr,
Bydd llawer ohonoch wedi gweld y sylw diweddar yn y wasg ynghylch fy sylwadau preifat.
Mae llawer o'r sylw yn y cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar fideo sydd wedi'i olygu o sgwrs breifat, nad oedd fyth i fod i gael ei rhannu'n gyhoeddus, na sarhau unrhyw un, yn enwedig yn ystod cyfnod anodd a straenus i chi i gyd. Mae'n ddrwg gen i os achosodd fy sylwadau unrhyw sarhad i'r myfyrwyr hynny, yn benodol, y rhai wnaeth ddewis peidio â dod i'r sesiwn addysgu fyw y diwrnod hwnnw.
Ymddiheuraf os oedd rhai myfyrwyr yn teimlo wedi'u sarhau gan yr hyn a ddywedais yn y fideo sydd wedi’i olygu. Nid brifo unrhyw un oedd fy mwriad.
Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen cywiro beth sydd wedi cael ei adrodd yn anghywir. Ni ddywedais fod myfyrwyr yn 'ddwl am fod eisiau Polisi Rhwyd Ddiogelwch'; bydd y rhai sydd wedi gwylio'r recordiad yn gwybod hyn.
Er fy mod yn difaru'r ffordd y mynegais fy rhwystredigaeth, rwy'n credu bod peidio â dod i ddarlithoedd yn cael effaith negyddol ar eich dysgu, gan eich bod yn colli allan ar amser addysgu gwerthfawr.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer ohonoch yn teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch y sefyllfa bresennol, ac mae gennych berffaith hawl i ofyn i fesurau rhwyd ddiogelwch ychwanegol gael eu rhoi ar waith, ond nid mewn darlithoedd yw'r lle cywir i godi pryderon o'r fath pob tro.
Yn hollbwysig, rwyf am i chi i gyd elwa o'r cyfleoedd ymgysylltu a dysgu sydd ar gael i chi - yn enwedig o ystyried yr amgylchedd dysgu heriol yr ydych yn ei wynebu. Rwyf ar ddeall bod y Brifysgol bellach wedi adolygu ei polisi rhwyd ddiogelwch yn sgîl pryderon a fynegwyd gan myfyrwyr, a bydd yn amlinellu'r newidiadau cyn bo hir.
Ynghylch y sylwadau a wnes i am fformat arholiadau, nid yw mwy o amser yn arwain at berfformiad gwell mewn arholiad, i'r gwrthwyneb a dweud y gwir, a gall beri straen di-angen i fyfyrwyr. Dyna pam mae hyd arholiad 'llyfr agored' eleni yn unol â rhai cyn 2020, gydag awr ychwanegol i'r arholiad tair awr er mwyn caniatáu amser lawrlwytho/uwchlwytho arholiad.
Bydd y rheiny sy'n f'adnabod yn gwybod nad yw llawer o'r sylwadau sydd wedi deillio o'r sylw yn y wasg yn adlewyrchu fy ymrwymiad personol i'ch addysg a'ch lles.
Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i staff a fyfyrwyr, ac mae'n anffodus bod y sgwrs breifat hon wedi cael ei chymryd allan o'i chyd-destun a'i gwneud yn gyhoeddus fel hyn.
Rwy'n cyd-deimlo â'r myfyrwyr sydd wedi cael eu hypsetio gan yr adroddiad hwn yn yr wasg; mae hynny'n ddealladwy. Ymddiheuraf os cawsoch chi eich brifo gan yr erthygl hon, fel fi.
Nid wyf yn bwriadu trafod hyn ymhellach, ond rwyf bob tro'n fodlon trafod pryderon yn uniongyrchol gyda fy myfyrwyr.
Hoffwn roi sicrwydd i chi fy mod wedi ymrwymo'n llwyr, ac yn benderfynol, i wneud popeth hyd fy ngallu i gefnogi'ch astudiaethau.
Dymuniadau gorau
Datganiad a gyhoeddwyd 12 Ionawr 2021
Rydym yn ymwybodol o'r sylwadau hyn. Nid yw sylwadau o'r fath yn cyfleu barn swyddogol y Brifysgol na'r Ysgol, ac ymddiheuron am unrhyw sarhad a achoswyd. Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r polisi a'r gefnogaeth sy'n ffurfio ymagwedd y Brifysgol o ran rhwyd ddiogelwch. Yn y cyfamser, byddem yn annog unrhyw fyfyriwr sy'n cael anawsterau o ran ei astudiaethau i ddefnyddio'r gefnogaeth a'r cyngor sydd ar gael ar lefel Ysgol a Phrifysgol. Rydym yn ymchwilio, a byddai'n amhriodol i ni drafod ymhellach nes bod yr ymchwiliadau wedi dod i ben.