Ewch i’r prif gynnwys

Datganiadau’r cyfryngau

Marwolaeth Yr Athro Syr Mansel Aylward CB

Gyda thristwch mawr y mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth yr academydd a’r meddyg iechyd cyhoeddus Yr Athro Syr Mansel Aylward CB, a fu farw ddydd Mercher, 29 Mai 2024. Drwy gydol ei yrfa arbennig, chwaraeodd Syr Mansel ran annatod ym meysydd darparu gofal iechyd ac ymchwil iechyd yng Nghymru – yn ogystal â bod yn Brif Swyddog Meddygol, Syr Mansel oedd Cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Meddygol a Phrif Wyddonydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llundain. Er mwyn cydnabod ei wasanaeth helaeth i iechyd a gofal iechyd, cafodd ei urddo’n farchog yn 2010 yn rhan o Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.

Dywedodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Trist iawn oedd cael gwybod am farwolaeth Syr Mansel Aylward CB. Mae wedi gwneud cyfraniadau enfawr i iechyd a lles pobl yng Nghymru, a bydd effaith ei waith yn parhau i wasanaethu’r cyhoedd yn genedlaethol, yn lleol ac yn gymunedol yng Nghymru ymhell i’r dyfodol.

“Yng Nghymru a’r DU, mae meysydd darparu gofal iechyd ac ymchwil iechyd wedi elwa o gyfraniad Syr Mansel, ac mae ei effaith ynghlwm wrth foment arbennig yn hanes Cymru. Syr Mansel oedd un o’r meddygon cyntaf i gyrraedd trychineb Aberfan ym 1966 – yn fyfyriwr meddygol yn ei flwyddyn olaf, gofalodd am y rhai a anafwyd, a rhoddodd driniaeth i’r achubwyr a oedd wedi cael trawiadau ar y galon wrth durio drwy’r rwbel.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg hon.”

Datganiad yn ymateb i lythyr agored gan grwpiau protest - 29/05/24

Neges gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner ar ran Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Rydym wedi derbyn llythyr wedi’i lofnodi gan Cymru Students for Palestine sy’n nodi cyfres o alwadau ar y Brifysgol gan y gwersyll y tu allan i Brif Adeilad y Brifysgol.

Rydym wedi cael ein hysgwyd gan ddigwyddiadau yn Gaza ac Israel, ac rydym yn cydnabod cryfder teimladau sy’n bodoli yn ein cymuned. Rydym yn cydnabod bod y gwersyll wedi bod yn heddychlon ac rydym yn diolch i’r protestwyr am sicrhau nad ydynt yn tarfu ar fyfyrwyr sy’n adolygu na’r rhai sy’n sefyll arholiadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr, sy’n ymweld â’r gwersyll yn rheolaidd. Rydym wedi darparu tai bach a swyddogion diogelwch ychwanegol i sicrhau diogelwch a lles trigolion y gwersyll.

Rydym bob amser wedi ceisio cynnal deialog adeiladol gyda'n myfyrwyr er mwyn mynd i'r afael â’r materion anodd y maent yn teimlo'n angerddol yn eu cylch. Roedd ein Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Claire Morgan, yn falch o gael cwrdd â chynrychiolwyr myfyrwyr mewn cyfarfod ddydd Gwener diwethaf yn Undeb y Myfyrwyr. Mae uwch aelodau o staff hefyd wedi bod mewn cyswllt â chymdeithasau myfyrwyr dros y misoedd diwethaf, yn enwedig dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Rydym yn derbyn hawl ein myfyrwyr i brotestio’n heddychlon ac yn cydnabod y rhan bwysig y mae protest yn ei chwarae mewn cymdeithas ddemocrataidd. Credwn ein bod wedi cymryd camau i helpu i hwyluso protestio heddychlon. Rydym hefyd yn derbyn bod rhyddid barn yn golygu bod gan unigolion hawl i leisio barn hyd yn oed lle gallai’r safbwyntiau hynny dramgwyddo neu beri gofid i eraill, ac rydym bob amser wedi ceisio sicrhau bod cyfnewid syniadau yn bosibl.

Fodd bynnag, mae dyletswydd arnom yn ogystal i sicrhau bod pob aelod o staff a myfyriwr yn gallu byw, gweithio, astudio a chymdeithasu heb ofn ac yn ddidrafferth. Gwyddom fod bodolaeth y gwersyll yn peri gofid i rai o aelodau ein cymuned. Mae rhai aelodau o staff a myfyrwyr wedi ysgrifennu ataf i a fy nghydweithwyr i ddweud bod rhai o’r deunyddiau sy’n cael eu harddangos yn y gwersyll ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn peri gofid iddynt. Rydym yn cymryd y cwynion hyn o ddifrif.

Rydym wedi hysbysu Cymru Students for Palestine a chynrychiolwyr y myfyrwyr na fyddwn yn cyfathrebu gyda chyfrif e-bost dienw, ac yn hytrach yn amlinellu ein hymatebion i alwadau’r gwersyll yma.

Galwadau’r gwersyll

  1. Mae’r galwad cyntaf yn gofyn i’r Brifysgol ddad-fuddsoddi ar unwaith o “bob cwmni sy’n cynorthwyo Israel i gyflawni hil-laddiad ar bobl Gaza”, gan restru’n benodol BAE Systems, Elbit, Airbus, Thales, EX Libris, Northrop Grumman a Rolls Royce.

    Nid oes gan Brifysgol Caerdydd fuddsoddiadau uniongyrchol nac anuniongyrchol yn unrhyw un o’r cwmnïau hyn.

    Nid ydym ychwaith yn buddsoddi’n anuniongyrchol nac yn uniongyrchol yn unrhyw un o’r cwmnïau yng Nghronfa Ddata’r Cenhedloedd Unedig Yn Unol â Phenderfyniad 31/36 y Cyngor Hawliau Dynol, a ddiweddarwyd ar 30 Mehefin 2023. Nid ydym yn buddsoddi yn nyled sofran Israel.

    Mae polisi buddsoddi moesegol y Brifysgol ar gael ar ein gwefan. Mae gan y Brifysgol Banel Cynghori ar Gyllidwyr sy’n rhoi cyngor i Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ar briodoldeb derbyn, trosglwyddo neu wrthod cyllid allanol gan ffynonellau dyngarol, grantiau a chontractau ymchwil, neu weithgareddau datblygu masnachol. Yn olaf, rydym wedi cytuno’n ddiweddar â rheolwyr ein cronfeydd y byddwn yn cyhoeddi ein daliannau buddsoddi a byddwn yn ceisio gwneud hynny’n fuan.

    Mae'r llythyr yn galw arnom i wahardd cwmnïau fel BAE Systems rhag recriwtio ein myfyrwyr mewn ffeiriau gyrfaoedd a gweithgareddau cysylltiedig. Gwneir penderfyniadau ynghylch pwy sy’n cael bod ar y campws at ddibenion recriwtio yn unol â datganiad y Cod Moeseg a Didueddrwydd. Cytunwyd ar hyn gan Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Brifysgol, ac fe'i nodwyd yn y Senedd, sydd ill dau â chynrychiolaeth myfyrwyr.

    Mae'r Cod Moeseg yn helpu'r Brifysgol i gynnig gwasanaeth diduedd sy'n caniatáu i fyfyrwyr a graddedigion i wneud dewisiadau gwybodus am eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod rhai’n anghytuno â’r dull hwn o weithredu, credwn ei bod yn iawn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael cyswllt ag ystod lawn o gyflogwyr iddynt gael gwneud y penderfyniadau cywir am eu gyrfaoedd. Byddai ceisio gwahardd neu foicotio cyflogwyr yn peryglu ein hymrwymiadau i ryddid barn a rhyddid academaidd, ac ni fyddai’n rhoi ystyriaeth i ystod eang y safbwyntiau a geir ym mhob rhan o’r campws.

  2. Mae’r ail alwad yn galw ar y Brifysgol i “ddangos yn union i ble mae ein harian yn mynd gyda thryloywder ariannol llwyr, a rhoi’r pŵer i ni benderfynu ble mae’n cael ei fuddsoddi” ac i “sefydlu pwyllgorau o fyfyrwyr a gweithwyr i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut mae arian yn cael ei fuddsoddi”.

    Rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol ar ein gwefan bob blwyddyn. Mae cynrychiolwyr myfyrwyr a staff ar bob un o'n huwch-bwyllgorau cyllid, yn ogystal ag ar Gyngor y Brifysgol. Mae cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr yn eistedd ar Bwyllgor Cyllid ac Adnoddau'r Brifysgol, ac un arall ar yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio. Gwahoddwyd cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr ar yr Is-bwyllgor Buddsoddi a Bancio hefyd i gyfarfod â darpar reolwyr cronfa newydd pan bennwyd rheolwr cronfa newydd yn 2023.

    Yn aml, mae rhesymau dilys, a masnachol-sensitif pam na allwn gyhoeddi enwau pob un o'r cwmnïau y mae'r Brifysgol yn gweithio gyda nhw. Fodd bynnag, o ystyried y pryderon a godwyd, byddwn yn ystyried pa wybodaeth ychwanegol y gellid ei chyhoeddi yn ein datganiadau ariannol. Fel y soniwyd uchod, rydym wedi cytuno’n ddiweddar â rheolwyr ein cronfeydd y byddwn yn cyhoeddi daliannau buddsoddi a byddwn yn ceisio gwneud hynny’n fuan.

  3. Mae’r trydydd galwad yn galw ar y Brifysgol i “gyflwyno datganiad i gondemnio’r hil-laddiad a dinistrio’r system addysg yn Gaza, a thrwy gyfrwng Pwyllgorau o Fyfyrwyr a Gweithwyr, i ail-fuddsoddi yn addysg Palesteina trwy helpu i ailadeiladu eu system addysg sydd wedi’i dinistrio, a chynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr o Balesteina sydd wedi’u dadleoli.” 

    Rydym yn gwerthfawrogi ac yn deall y byddai nifer o bobl yn hoffi i'r Brifysgol gymryd safbwynt eglur am y gwrthdaro. Mae'r gwrthdaro wedi peri gofid ac yn parhau i beri gofid eithriadol i lawer o aelodau o’n cymuned. Ni fyddwn yn cyhoeddi datganiad o’r fath. Mae'n bwysig bod prifysgolion yn parhau i fod yn fannau lle gellir clywed a thrafod nifer o safbwyntiau gwahanol. Ein rôl ni yw cadw’r gofod hwn yn agored er mwyn galluogi aelodau o’n cymuned i gyfnewid syniadau a barn, a gall cyhoeddi datganiadau o dan yr amgylchiadau hyn arwain at ddistewi lleisiau neu leihau gallu unigolion i leisio barn wahanol.

    Mae hefyd yn bwysig ein bod yn deall cwmpas ein dylanwad fel sefydliad. Rydym yn canolbwyntio ar gefnogi ein cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn, ac ar y camau y gallwn eu cymryd yn rhagweithiol i wella ansawdd bywyd yma ac yn fyd-eang, gan gynnwys yn Gaza.

    Rydym yn ymwybodol o'n dyletswydd i helpu i ailadeiladu'r system addysg ym Mhalesteina ac rydym wedi bod yn gweithio gydag eraill yn y sector i gyflawni'r ddyletswydd hon. Mae academyddion yn ein prifysgol, er enghraifft, yn gweithio gyda phrifysgolion Palesteina i'w cefnogi i ddatblygu adnoddau i addysgu eu myfyrwyr o bell. Byddwn yn parhau i weithio gyda Universities UK a’r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (Council for At-Risk Academics) ar raglenni traws-sector i helpu academyddion a myfyrwyr fel ei gilydd.

    Yn ogystal, ac o ganlyniad i natur barhaus y rhyfel hwn, rydym yn ailedrych ar ein cynnig o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd wedi'u dadleoli gan ryfel neu drychinebau naturiol. Rydym wedi ymrwymo i drafod hyn ymhellach gyda'n myfyrwyr i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei ddatblygu yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr sydd wedi'u dadleoli ledled y byd.

  4. Mae'r galwad olaf yn gofyn i’r Brifysgol “gefnogi rhyddid a diogelwch myfyrwyr ac academyddion fel ei gilydd, yn enwedig pan mae’n dod i fynegi barn o blaid Palesteina a threfnu o blaid yr achos. Dylid rhoi cymorth pellach i fyfyrwyr ac academyddion Palesteina sydd wedi colli aelodau o’u teulu yn ystod yr hil-laddiad”.

    Rydym wedi ceisio galluogi staff a myfyrwyr i ddangos eu cefnogaeth i Balesteina yn ddiogel ac yn heddychlon a byddem hefyd yn cefnogi unrhyw grŵp sydd am fynegi barn wahanol neu i’r gwrthwyneb. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn rhyddid barn a rhyddid academaidd.

    Nid ydym wedi ymyrryd yn y ralïau, y gweithredoedd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, na'r gwersyll. Rydym wedi darparu tai bach a chymorth diogelwch 24 awr i’r gwersyll. Dim ond pan fydd gweithgarwch yn dechrau ymyrryd â busnes y Brifysgol neu lle mae ymddygiad yn torri ein polisïau Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y byddwn yn cymryd camau.

    Rydym wedi datgan yn agored sawl gwaith bod cefnogaeth ar gael i’n myfyrwyr a’n staff sy’n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro. Os yw'r gwrthdaro wedi effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni. Siaradwch â'ch tiwtor personol, eich rheolwr llinell, Pennaeth eich Ysgol neu uwch gydweithiwr rydych yn ymddiried ynddynt. Yna, gallwn gynnig cymorth penodol i chi, boed hynny’n ariannol, yn fugeiliol neu ar sail amgylchiadau esgusodol.

Gobeithiwn fod y datganiad hwn yn helpu pob aelod o gymuned ein Prifysgol i ddeall ein safbwynt. Mae’r rhain yn amgylchiadau dyrys, emosiynol ac anodd. Rydym yn gweithio'n galed i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a moesol, ac mae anghenion ein staff a’n myfyrwyr amrywiol yn ganolog i’r penderfyniadau yr ydym yn eu cymryd.

Dymuniadau gorau,

Wendy Larner

Message from the Vice-Chancellor on pro-Palestine protest , 15/5/24

Message from the Vice-Chancellor on pro-Palestine protest, 15/5/24

Statement - 13/07/23

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Dyma a ddywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Peth anodd yw dychmygu pa mor ofidus yn ôl pob tebyg fu digwyddiadau'r dyddiau diwethaf i Huw, ei deulu a'i ffrindiau, yn ogystal a’r rheini a gyflwynodd yr honiadau a'u teuluoedd nhwthau. Gwthiwyd pob un sydd ynghlwm i ganol cynnwrf yn y cyfryngau y bydd ganddo, yn anffodus, effeithiau fydd yn para’n hir. Gobeithiaf y bydd Huw yn cael y cymorth a’r driniaeth sydd ei hangen arno ac y gellir mynd i’r afael maes o law â’r holl faterion sydd heb eu datrys. Mae’n bwysig cofio bod bodau dynol yng nghanol y digwyddiadau hyn gan ganiatáu iddynt y preifatrwydd y mae ganddynt yr hawl i’w ddisgwyl.

Effaith y boicot marcio ac asesu ar ein myfyrwyr sy'n graddio - 4/7/23

Ynghyd â llawer o brifysgolion eraill yn y DU, mae Prifysgol Caerdydd yn profi aflonyddwch o ganlyniad i’r boicot marcio ac asesu a alwyd gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU). Mae effaith y gweithredu hwn wedi'i ganoli mewn rhai o'n Hysgolion Academaidd.

Rydym bellach wedi gallu asesu effaith y boicot. Bydd mwyafrif ein myfyrwyr blwyddyn olaf yn derbyn gradd ddosbarthedig (ee gradd 1af, 2:1, 2:2). Yn anffodus, bydd nifer o’n myfyrwyr yn cael gradd annosbarthedig am y tro. Ar gyfer nifer fach arall o fyfyrwyr eraill, ni allwn rhoi canlyniad ar gyfer eu gradd ar hyn o bryd.

Rydym yn boenus o ymwybodol bod y myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt yn teimlo'n siomedig iawn, yn bryderus ac yn ofidus. Gwyddom fod y sefyllfa hon yn cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydym ni hefyd wedi ein siomi o weld effaith yr anghydfod cenedlaethol hwn ar adeg pan ddylai ein myfyrwyr fod yn dathlu diwedd llwyddiannus eu profiad israddedig ac yn edrych ymlaen at eu camau nesaf.

Bydd ein seremonïau graddio a'n dathliadau yn mynd rhagddynt. Gobeithiwn y bydd holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf yn teimlo y gallant ymuno â ni i nodi penllanw eu taith israddedig gyda ni. Bydd y rhai sy’n dymuno gohirio yn gallu ymuno â’n seremonïau yn 2024.

Byddwn yn gwneud popeth posibl i gael gwaith ein myfyrwyr wedi'i farcio cyn gynted â phosibl, gan gynnal safonau academaidd, a byddwn yn darparu marciau llawn a dosbarthiadau cyn gynted ag y gallwn.

Rydym yn cysylltu â chyflogwyr a phrifysgolion eraill i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod ein myfyrwyr yn gallu dechrau eu gyrfaoedd neu ymgymryd ag astudiaethau pellach.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr rhyngwladol yn gallu gwneud cais i ymestyn eu caniatâd fisa myfyriwr o’r tu mewn i’r DU tra eu bod yn aros am eu canlyniadau.

Gwyddom fod hwn yn gyfnod hynod o ofidus i’n myfyrwyr yr effeithir arnynt. Rydym yn anfon cyfathrebiadau pwrpasol i bob myfyriwr yr effeithir arnynt, ac rydym wedi cynyddu gallu yn ein gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr i roi cymorth iddynt.  Rydym yn annog myfyrwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, sy'n galluogi mynediad at ystod eang o arbenigwyr mewn gyrfaoedd, cyllid, iechyd a lles.

Mae hwn yn anghydfod cenedlaethol. Ni all y Brifysgol ddatrys y materion hyn yn annibynnol. Rydym wedi ymrwymo i'r broses genedlaethol o ymgynghori ar y cyd ac i ddod o hyd i ateb fforddiadwy sy'n cydnabod cyfraniad gwerthfawr ein staff. Rydym yn parhau i weithio'n adeiladol gydag UCU Caerdydd ar faterion lleol lle gallwn wneud gwelliannau i'n staff.

Gobeithiwn y gellir dod i gasgliad i’r cyfnod hwn o weithredu diwydiannol, er budd pob aelod o’n cymuned.

Prif Adeilad - 09/05/23

Datganiad - Prif Adeilad

Datganiad a gyflwynwyd i Wales Online - 29/03/23

Datganiad a gyflwynwyd i Wales Online

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall - 17/2/23

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

Ei Mawrhydi’r Frenhines 1926-2022

Yr Is-Ganghellor yn anfon cydymdeimlad at aelodau o'r Teulu Brenhinol.

Graddio - 21/07/22

Datganiad ynghylch gwisgoedd graddio

Ymddygiad staff ar y cyfryngau cymdeithasol - 06/07/22

Datganiad sy’n ymwneud ag ymddygiad staff ar y cyfryngau cymdeithasol

Datganiad ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Prifysgolion a Cholegau am USS

Mae Prifysgol Caerdydd a changen leol UCU (UCU Caerdydd) wedi gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar ddatganiad ar y cyd yn ymwneud â'r anghydfod USS presennol.

Graddio 2022 - 07/03/22

Neges o Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Stonewall

Stonewall - 22/06/21

Ymateb i lythyr y Crwner - 09/02/2022

Ymateb i lythyr y Crwner

Neges ar y cyd i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru - 25/10/21

Neges ar y cyd i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru

Statement - 15/10/21

Statement - 15/10/21

Statement on concerns raised about scaling - 15/07/21

Statement on concerns raised about scaling - 15/07/21

Canlyniadau ACM 2021

Datganiad ynghylch canlyniadau ACM 2021

Ymateb i Nation.Cymru - 22/06/21

Response to Nation.Cymru - 22/06/21

Sylwadau cyfryngau cymdeithasol - 17/06/21

Sylwadau cyfryngau cymdeithasol - 17/06/21

Statement issued to The Tab - 03/06/21

Statement issued to The Tab - 03/06/21

Neges i Gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd o'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr - 20.5.21

Neges i Gadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd o'r Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr - 20.5.21

Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (ILEP) - 04.05.2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd (ILEP), yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i roi’r gorau i fod yn rhan o gynllun Erasmus+.

Rhaglen ddogfen BBC Three - 28/04/2021

Datganiad ynghylch rhaglen ddogfen BBC Three - 28/04/2021

Datganiad a gyflwynwyd i The Tab - 22/04/21

Datganiad a gyflwynwyd i The Tab - 22/04/21

Datganiad a gyflwynwyd i Wales Online - 29/03/23

Datganiad a gyflwynwyd i Wales Online

Ebost ymddiheuro - Dr Helen McCarthy

Ebost a anfonir i'r holl fyfyrwyr BI3354 Anatomeg Uwch ar ran Dr Helen McCarthy

Neges i fyfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth o Bennaeth yr Ysgol - 24/11/20

Neges i fyfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth o Bennaeth yr Ysgol - 24/11/20

Datganiad gan Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – dydd Gwener, 20 Tachwedd, 2020

Datganiad gan Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – dydd Gwener, 20 Tachwedd, 2020

Datganiad i BBC Wales – dydd Mercher 18 Tachwedd, 2020

Datganiad i BBC Wales – dydd Mercher 18 Tachwedd, 2020

Datganiad ynghylch astudiaeth cyn-argraffu Prifysgol Caerdydd am effeithlonrwydd cegolch yn erbyn SARS-COV-2 in vitro:

Datganiad ynghylch astudiaeth cyn-argraffu Prifysgol Caerdydd am effeithlonrwydd cegolch yn erbyn SARS-COV-2 in vitro

Cyhoeddiadau llywodraethau Cymru a'r DU ynghylch graddau

Datganiad yn ymateb i gyhoeddiadau llywodraeth Cymru a'r DU ynghylch graddau.

Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd

Datganiad am yr Ysgol Deintyddiaeth

Llythyr agored oddi wrth yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor yn dilyn llofruddiaeth George Floyd

Datganiad yn dilyn llofruddiaeth George Floyd - 02/06/20

Datganiad yn dilyn llofruddiaeth George Floyd

Men’s football team – 06/03/2020

Cardiff University statement on the men's football team

Social media comments - 17/12/2019

University statment on social media comments

Voter registration – 12/12/2019

University statement on voter registration

University statement on Student Union lift - 11/12/2019

University statement on the Park Place Cardiff University Students' Union lift

Pro-choice motion – Cardiff University Students’ Union

Statement from Jackie Yip, Students’ Union President

Cardiff University response to Students' Union AGM motion on EHRC report – 22/11/2019

Cardiff University response to Students' Union AGM motion on EHRC report

Allegations of racism - 27/06/2019

Statement on allegations of racism at Cardiff University

OIA summary - 01/07/2019

Response to OIA summary

Mental health support - 13/05/2019

Statement on mental health support at Cardiff University

Cardiff University event - 10/04/2019

Statement regarding event at Cardiff University

General Practice - 02/04/2019

Letter regarding general practice

Response from Chair of Council to Cardiff University BME students - 20/03/2019

Response from Chair of Council to Cardiff University BME students

Letter to the Editor, The Sunday Times: re foreign medical students - 14/03/2019

Letter to the Editor, The Sunday Times regarding the article 'Britons lose out to rush of forgein medical students'

BBC Wales Live - 20/02/2019

BBC Wales Live statement

School of Welsh/Welsh for Adults - 19/02/2019

Datganiad Trawsffurfio Caerdydd

Trawsffurfio Caerdydd

Datgelu cynllun i gyflawni cynllun strategol y Brifysgol

Cardiff University Staff Opposing Brexit

Vice-Chancellor’s response to the open letter from the group Cardiff University Staff Opposing Brexit

Malcolm Anderson

Statement regarding Malcolm Anderson

ESRC PhD applications

Statement regarding ESRC PhD applications

Welsh Rugby Union (WRU) National Bowl - Update 27/04/2018

Updated statement on the Welsh Rugby Union (WRU) National Bowl

Welsh Rugby Union (WRU) National Bowl

Statement on the Welsh Rugby Union (WRU) National Bowl

Allegations relating to research misconduct - 19/04/2018

Statement on allegations relating to research misconduct

Cardiff University to stop investing in fossil fuels

Cardiff University has announced it is to stop investing in fossil fuels by 2021.

Partial Fossil Fuel Divestment

Our statement on Partial Fossil Fuel Divestment

Aberconway Building and Library - updated 23/2/2018

Following an incident on 19/02/18 at Aberconway Building the University has issued a statement.