Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Agorodd Canolfan Max Planck Caerdydd ar Hanfodion Catalysis Heterogenaidd (FUNCAT) yn 2019 i hwyluso ymchwil ar y cyd â Sefydliadau Max Planck ledled y byd.

Mae ein tîm o dros ugain o ymchwilwyr yn canolbwyntio ar dri maes ymchwil:

  1. O safle sengl i ronynnau.
  2. Defnyddio Asetylen yn borthiant ar gyfer cynhyrchu cemegion.
  3. Pwysigrwydd dynameg.

O fewn y meysydd hyn, mae ein hymchwil yn cynnwys lleihau carbon deuocsid, electrolysis dŵr, synthesis hydrogen perocsid, synthesis amonia, cemeg asetylen, mecanochemistry, a gronynnau bimetallig.

Cydweithio rhyngwladol

Mae gan y brifysgol hanes o ymchwil o'r radd flaenaf i gatalysis heterogenaidd yn Sefydliad Catalysis Caerdydd. Mae'r tîm yng Nghanolfan Max Planck (MPC) yn gweithio'n agos gyda thri sefydliad sydd â darganfyddiadau o'r radd flaenaf mewn catalysis heterogenaidd a sut y gall catalysis gefnogi technoleg cynaliadwyedd yn y diwydiant cemegol modern:

Mae gweithio gyda'n gilydd yn ein galluogi i rannu ein seilwaith, deunyddiau, ac offer ymchwil, a chefnogi ein trosglwyddiad i gynaliadwyedd. Mae hefyd yn ein galluogi i gefnogi datblygiad gyrfa ein hymchwilwyr drwy ddiwylliant ymchwil cydweithredol ar draws gwahanol sefydliadau.

Mae ein gwaith yn cynnwys 20-25 o ymchwilwyr ar draws y Ganolfan, Sefydliad Catalysis Caerdydd, a'n partneriaid yn Sefydliad Max Planck. Rydym yn cydweithio ar draws ein themâu ymchwil, gan gyfnewid samplau catalyddion a data ymchwil.

Ym mis Ebrill 2022, cynhaliom ein cyfarfod ymchwil rhyngweithiol cyntaf yn Sefydliad Fritz Haber (FHI) yn Berlin. Mynychodd dros 40 o aelodau tîm o'r bartneriaeth, ac ers hynny, mae ymchwilwyr wedi bod yn symud rhwng sefydliadau partner fel rhan o'n prosiect ymchwil ar y cyd. Cyhoeddwyd Erthygl Safbwynt ar ein cyfeiriad ymchwil yn Angewandte Chemie ym mis Tachwedd 2022.