Themâu ymchwil
Profiad y claf a theulu’r claf
Mae'r ymchwil hon wedi'i seilio ar safbwynt y claf a'r teulu, gan gynnwys barn a phrofiadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'n canolbwyntio ar roi cymorth wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth cleifion sy’n dioddef o glefydau datblygedig, llythrennedd marwolaeth, a monitro profiad cyfranogwyr treialon clinigol mewn amser go iawn.
Mae profiad y cleifion yn aml yn herio’r rhagdybiaethau sy’n cael eu gwneud yn ein treialon clinigol ynghylch dewis ac angen cleifion, ac mae unedau treialon o bob cwr o’r wlad yn cysylltu â ni i arwain y gwaith hwn drostynt.
Thrombosis
Mae'r ymchwil hon, dan arweiniad yr Athro Simon Noble, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd atal, trin a rheoli thromboemboledd gwythiennol (VTE) a cheuladau gwaed mewn cleifion canser datblygedig.
Professor Simon Noble
Athro Clinigol Meddygaeth Gefnogol a Lliniarol; Arweinydd Thematig, Thrombosis
Gofal diogel ac effeithiol.
Nod yr ymchwil hon, sy’n cael ei chyd-arwain gan yr Athro Andrew Carson-Stevens, yw creu amgylchedd cynaliadwy ar gyfer effaith drosiadol, creu disgrifiadau cynhwysol o ddarpariaeth Gofal Diwedd Oes (EOLC), defnyddio tystiolaeth a pharatoi ar gyfer newid.
Yr Athro Andrew Carson-Stevens
Clinical Research Fellow
- carson-stevensap@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 7779
Profedigaeth
Nod y thema profedigaeth dan arweiniad Dr Emily Harrop yw gwella mynediad at gymorth priodol, rhoi tystiolaeth ar ba gymorth sy'n gweithio orau ac i bwy, a darparu offer ar gyfer ymchwil ac ymarfer. Mae'r ymchwil hon yn ceisio cynnig cysondeb ac ansawdd wrth roi gwybodaeth a chynnig cefnogaeth briodol yn ogystal ag optimeiddio dylunio a darparu gwasanaethau ar ôl y pandemig.
Mae ein hymchwil ar brofedigaethau wedi dylanwadu ar Gomisiwn y DU ar Brofedigaeth a Fframwaith Profedigaeth Llywodraeth Cymru.
Browse our research portfolio to see current projects our researchers are working on.