COBra
Astudiaeth i ddatblygu canlyniadau craidd a gofnododd cleifion i gael ei defnyddio mewn treialon tiwmor yr ymennydd.
Rydym wedi rhoi’r gorau i recriwtio ar gyfer yr astudiaeth hon erbyn hyn ac wrthi’n rhoi canfyddiadau’r astudiaeth ar bapur.
Mae’r protocol, sy’n manylu ar ddulliau’r astudiaeth, wedi’i gyhoeddi bellach, ac mae ar gael yma: Protocol COBra. Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, ar ôl eu rhoi ar bapur. Yn y cyfamser, mae diweddariad manylach ar gael yma.
Cefndir
Yn draddodiadol, mae astudiaethau canser yr ymennydd yn canolbwyntio ar ymatebion y tiwmor a goroesiad ar y cyfan. Fodd bynnag, cydnabyddir yn gynyddol bod angen i astudiaethau ystyried gwell gwybodaeth o ansawdd uchel am ganlyniadau sy'n bwysig i'r rhai sy'n byw gyda thiwmor yr ymennydd.
Mae Canlyniadau a Gofnodir gan Gleifion yn cofnodi profiad byw cleifion eu hunain o'r clefyd a'i driniaeth, e.e. ansawdd bywyd a swyddogaeth. Mae defnyddio PROs yn caniatáu asesu cyfaddawdau rhwng ymatebion y tiwmor a’r effeithiau ar gleifion. Gwyddom:
- Yn aml, nid yw treialon tiwmor yr ymennydd sy'n casglu gwybodaeth PRO yn adrodd, nac yn asesu, ei bwysigrwydd ochr yn ochr ag ymateb y tiwmor.
- Nid oes consensws ar y mathau o ganlyniadau cleifion a asesir, gan gyfyngu ar gyfleoedd i gymharu canlyniadau rhwng astudiaethau neu gyfuno gwybodaeth rymus ar draws astudiaethau.
- Gall datblygiad Set Canlyniadau Craidd (COS) wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth a gesglir, gan hwyluso rhannu data i gynhyrchu canlyniadau sy'n newid ymarfer.
Nod
Dod i gonsensws ar set graidd o ganlyniadau sy'n canolbwyntio ar y claf a fydd yn cynrychioli'r isafswm i'w ddefnyddio mewn glioma oedolion cynradd ar draws pob astudiaeth, o safbwynt y DU.
Effaith
Bydd y COS yn cael ei gyhoeddi yn unol â safonau adrodd ac yn cael ei fabwysiadu a'i hyrwyddo gan is-grŵp Gofal Cefnogol a Lliniarol NCRI Brain CSG ar gyfer astudiaethau glioma. Bydd datganiad sefyllfa sy'n mandadu Unedau Treialon Clinigol y DU i weithredu'r COS a chymeradwyo canllawiau rhyngwladol ar gynhwysiant, dadansoddi ac adrodd yn cael ei gyhoeddi.
Gwybodaeth
Prif Ymchwilydd | Yr Athro Anthony Byrne |
Ymholiadau cyffredinol | Elin Baddeley |
Cyllidwr | Elusen Tiwmor yr Ymennydd |
Dyddiad Dechrau | 04 Ionawr 2021 |
Dyddiad gorffen | 31 Awst 2022 |
Statws | Yn mynd rhagddo |