Portffolio ymchwil
Mae ein portffolio yn cwmpasu amrywiaeth o fethodolegau a mathau o ymchwil.
Mae rhai o'n hastudiaethau wedi'u hamlygu isod.
Astudio | Teitl | Ein rôl | Statws |
---|---|---|---|
COBra | Deilliannau craidd a adroddir gan gleifion mewn treialon tiwmorau'r ymennydd. | Prif Ymchwilydd: Anthony Byrne | Yn mynd rhagddo |
BeCOVID | Profiadau profedigaeth ac anghenion cymorth pobl mewn profedigaeth yn ystod y pandemig COVID-19 | Prif Ymchwilydd: Emily Harrop; Lucy Selman | Yn mynd rhagddo |
PhAB | Hwyluswyr gweithgarwch ffisegol a’r hyn sy’n ei rwystro mewn cleifion canser â thiwmor ar yr ymennydd yng Nghymru a Bangladesh. | Prif Ymchwilydd: Ishrat Islam | Adroddwyd |
Chronos | Deilliannau ymchwil iechyd cymharol o lawfeddygaeth newydd ym maes canser y prostad: Hapdreialon rheoledig cam II sy’n cynnwys peilot mewnol. | Cyd-Ymchwilwyr: Mirella Longo, Annmarie Nelson | Cam adrodd |
Rambo | Dulliau mesur deilliannau asesiadau ymchwil ynghylch rhwystrau niweidiol o’r coluddyn. | Prif Ymchwilydd: Simon Noble | |
Adolygiad Cochrane | Ymyriadau lliniarol cynnar er mwyn gwella deilliannau ymhlith pobl â thiwmor niweidiol cynradd yn yr ymennydd a’u gofalwyr: Adolygiad Cochrane | Prif Ymchwilydd: Anthony Byrne | Yn mynd rhagddo |
Ysgoloriaeth Ymchwil Marie Curie | Datblygu adnodd i sgrinio effeithiau therapi ymbelydredd ar ganser yr ymennydd | Myfyriwr PhD: Francesca Mazzaschi | Yn mynd rhagddo |
Girasol | Datblygu canllawiau ar gyfer cyfathrebu canlyniadau ymchwil gyda chleifion, aelodau'r cyhoedd a grwpiau eraill o randdeiliaid | Prif Ymchwilydd: Mirella Longo | Yn mynd rhagddo |
Empower | Gwerthuso offeryn a ddyluniwyd gan gleifion i leihau niwed yn sgîl thrombosis sy'n gysylltiedig â chanser (CAT) | Prif Ymchwilydd: Simon Noble | Adroddwyd |
Gwasanaethau Cymorth Profedigaeth | Arolwg cwmpasu o wasanaethau cymorth profedigaeth yng Nghymru | Prif Ymchwilwyr: Anthony Byrne, Emily Harrop | Adroddwyd |
Gwerthusiad 7 diwrnod | Gwerthusiad o wasanaeth arbenigol nyrsiau clinigol gofal lliniarol arbenigol Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ar benwythnosau a gwyliau banc | Prif Ymchwilydd: Alisha Newman | Adroddwyd |
ROCS | Radiotherapi lliniarol yn ogystal â stent metel hunan-ehangu er mwyn gwella canlyniadau dysffagia a goroesi canser oesoffagaidd wrth gam uwch | Prif Ymchwilydd: Anthony Byrne | Adroddwyd J Clin Oncology |
Gallwn gynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim i academyddion, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.