Ewch i’r prif gynnwys

Cynnwys cyhoedd

GP and patient

Rydym yn mynd ati i gynnwys pobl y mae marwolaeth a phrofedigaeth yn effeithio arnynt wrth ddylunio a chyflwyno ein hastudiaethau ymchwil.

Drwy rannu eu profiadau personol gyda ni, mae aelodau'r cyhoedd yn helpu i sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion a phryderon pobl, a'i fod yn cael ei ddylunio a'i gynnal er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl, gan wella gofal a phrofiad cleifion a'u hanwyliaid yn uniongyrchol. Mae'r cyhoedd hefyd yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr i'n cynlluniau ymchwil tymor hir a'n diddordebau, drwy gymryd rhan mewn grwpiau strategol a thrafodaethau.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil a rhannu'r hyn rydym wedi'i ddysgu yn unol â Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu a lansio'r Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd mewn Effaith Ymchwil (PIRIT). Rydym wedi ei gwneud yn hygyrch i gefnogi gwelliannau mewn arferion ehangach o ran cynnwys y cyhoedd.

Cyrchwch ein Pecyn Cymorth Cynnwys y Cyhoedd mewn Effaith Ymchwil (PIRIT)

Cymryd rhan

Rydym bob amser yn chwilio am bobl sydd wedi'u heffeithio gan farwolaeth a phrofedigaeth i helpu gyda'n hymchwil. Os hoffech gymryd rhan, ebostiwch eich enw a'ch manylion cyswllt atom a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu am sgwrs anffurfiol.

Marie Curie CCC

I gael gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd y gall y cyhoedd helpu gydag ymchwil, ac i weld cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil eraill, ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.