Amdanom ni
Lansiwyd Canolfan Ymchwil Marie Curie, Caerdydd yn 2010 a dyma'r unig ganolfan yng Nghymru sydd ar gyfer ymchwil ym maes gofal lliniarol yn benodol.
Y tîm
Mae ein canolfan dan arweiniad Annmarie Nelson, Simon Noble, ac Anthony Byrne, athrawon yn Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Marie Curie yn ogystal â chydweithwyr academaidd a chlinigol ledled y DU, cyfranwyr cyhoeddus, hosbisau, a chyda grwpiau ymchwil sydd ag ystod eang o ddiddordebau. Rydym hefyd yn aelod o Ganolfan Ymchwil Cymru ar Ganser, sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Ein gwaith
Rydym yn gwrando ar bobl y mae marw, marwolaeth a phrofedigaeth yn effeithio arnynt. Mae ein gwaith ymchwil sy’n arwain y sector, yn cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ysgogi newid a gwella profiad diwedd oes i bawb.
Ein tair prif thema ymchwil yw:
- profiad y claf a theulu'r claf
- gofal diogel ac effeithiol
- thrombosis (clotiau gwaed)
- profedigaeth
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am themâu ein hymchwil ar ein tudalen themâu ymchwil.
Effaith
Ers 2010, rydym wedi denu dros £38 miliwn o gyllid, gan ddod â mewnfuddsoddiad i Gymru, a chreu swyddi newydd ym maes ymchwil.
Mae ein gwaith wedi dylanwadu ar newid y gyfraith yn Lloegr gyda’r Bil Iechyd a Gofal, ac mae ein hymchwil ar brofedigaeth wedi dylanwadu ar Gomisiwn y DU ynghylch Profedigaeth a’r Fframwaith Profedigaeth gan Lywodraeth Cymru.
Rydym wedi cyhoeddi mwy na dau gant a hanner o gyhoeddiadau ac mae’n canlyniadau wedi’u cynnwys ym mhump o Ganllawiau NICE, mewn pedwar canllaw rhyngwladol, adroddiad UK All-University, ac yn y Llywodraeth a’r Senedd.
Mae ein hymchwilwyr profiadol yn cydweithio ar ymchwil ragorol sy’n flaenoriaeth genedlaethol ac sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y claf a'r gofalwr.